gan
Carwyn
Mae’r gantores ac actores amryddawn leol, Lisa Jên wedi dod i’r brig yng ngwobrau Bafta Cymru.
Bydd darllenwyr craff yn cofio am gyfres arbennig ‘Stori’r Iaith’ ar S4C rai misoedd yn ôl ac am hanes y ffaith fod Lisa yn cyflwyno un o’r rhaglenni gan fynd ar drywydd hanes y Gymraeg a’i pherthynas efo’r iaith.
Mae’n braf cael cadarnhau fod y rhaglen, ac yn arbennig rôl Lisa ynddi wedi ei chydnabod yng ngwobrau Bafta Cymru ddoe (15 Hydref). Rhoddwyd y wobr Cyflwynydd i Lisa Jên, ar gyfer Stori’r Iaith.
Am fwy o wybodaeth am y gyfres, tarwch olwg nol ar yr erthygl wreiddiol yma pan ddarlledwyd hi gyntaf.
Llongyfarchiadau mawr i Lisa.