Mewn cyfnod ble mae cymunedau’n wynebu heriau trafnidiaeth a chostau byw cynyddol ‘roedd Partneriaeth Ogwen yn falch iawn o allu croesawu Cynghorwyr Sir a Chymuned yr ardal ac aelodau o bwyllgor rheoli’r fenter i Ganolfan Cefnfaes ar gyfer lansio prosiect y Dyffryn Caredig yn ffurfiol.
Derbyniwyd newyddion ardderchog yn ddiweddar fod Cronfa Gymunedol y Loteri wedi penderfynu ariannu prosiect y Dyffryn Caredig.
Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar lwyddiant blaenorol y Dyffryn Gwyrdd a’r tro yma bydd y prosiect dwy flynedd yn canolbwyntio ar drafnidiaeth gymunedol – cerbydau a beiciau trydan fydd yn darparu cludiant fforddiadwy a cynaliadwy’i gymunedau Dyffryn Ogwen.
Cynllun gwerth £327,411
Mae’r Bartneriaeth wedi derbyn £327,411 ar gyfer y prosiect er mwyn datblygu a hyrwyddo Dyffryn Ogwen fel ardal gynaliadwy.
Dywedodd Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen: “Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn amser heriol i’n cymunedau yma’n y Dyffryn gyda chostau byw a thrafeilio wedi cynyddu’n sylweddol.
“Rydym wedi gwrando ar ddyheadau’r trigolion ac yn ymestyn ein darpariaeth cludiant – yn fws cyswllt, cerbyd addas i gadair olwyn, car benthyg Co-Wheels a fflyd o feics trydan ac addasedig.
“Rydym wrth ein boddau, ac yn wirioneddol ddiolchgar i’r Gronfa Gymunedol ac i Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y gefnogaeth hael yma.
“Byddwn yn defnyddio’r arian hyn i ehangu’n cludiant cymunedol werdd fydd yn cyfrannu at leihau ôl-troed carbon y Dyffryn a chryfhau gwead ein cymuned a chyfranogiad trigolion i fywyd a chymdeithas Dyffryn Ogwen.”
Gwasanaeth bws cyswllt newydd
Ychwanegodd Huw Davies, Rheolwr y Dyffryn Caredig: “Mae’r gefnogaeth yma’n golygu ein bod yn gallu parhau’i ddatblygu’n gwasanaethau ar gyfer trigolion y Dyffryn.
“Yn ddiweddar ‘rydym wedi lansio gwasanaeth newydd bws cyswllt ar gyfer dod a phobl i Fethesda’i ddal bysus i Fangor ac ar gyfer apwyntiadau yn y Feddygfa a’r Ddeintyddfa a digwyddiadau cymdeithasol.
“Hefyd rydan ni wedi bod yn cynnal tripiau siopa ’Dolig, ac mae’r rheini wedi bod yn boblogaidd iawn wrth fynd o bentrefi’r ardal i lefydd fel Llandudno a Tweedmill.”