Deunaw wythnos o garchar

Bethan Rawes wedi ei charcharu ar ôl ei harestio ym Methesda yn ddiweddar

Llun Heddlu Gogledd Cymru

Mae dynes 39 oed o Fethesda wedi ei dedfrydu i 18 wythnos o garchar am ddwyn o siopau, difrod troseddol i eiddo’r heddlu a threfn gyhoeddus.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod Bethan Rawes, wedi ei harestio ddydd Sul, 12 Chwefror yn dilyn adroddiadau ei bod wedi ceisio dwyn o siop Tesco Express ym Methesda a’i bod yn sarhaus ar lafar tuag at staff.

Ar ôl cael ei harestio, roedd hi wedi poeri dro ar ôl tro mewn cerbyd heddlu ac mewn cell yn y ddalfa, gan achosi difrod.

Cafodd ei chyhuddo a’i dedfrydu i 18 wythnos dan glo ddoe (dydd Llun).