Mae’r chwaraewr rygbi dawnus o Fraichmelyn, Huw Davies wedi ei ddewis ar gyfer carfan Chwe Gwlad Cymru dan 20.
Yn ei dymor proffesiynol cyntaf gyda thîm Sale Sharks, mae Huw wedi chwarae mewn dwy gêm gyfeillgar yn ddiweddar i Gymru dan 20. Roedd yn gapten mewn gêm yn erbyn yr Alban dan 20, a chwaraeodd ran flaenllaw yn y fuddugoliaeth gyfforddus dros Wlad Pwyl yn ddiweddar.
Uchelgais
Fe gofiwch i ni gael sgwrs efo Huw nôl yn yr hydref a bryd hynny roedd gwisgo crys coch Cymru yn nod ar gyfer y tymor.
Ac wrth sicrhau ei le yng ngharfan y Chwe Gwlad, mae’n gwireddu uchelgais.
“Mae’n ffantastig gwybod fy mod i yn y sgwad ar ôl wythnosau o ymarfer, teimlad anhygoel gwisgo’r crys coch,” meddai Huw.
“Gobeithio rŵan ga i dipyn o amser ar y cae yn y 6 Gwlad a chael cap swyddogol, gan ddechrau nos Wener nesaf ym Mae Colwyn.”
Rhieni balch
Mae Dylan a Nia Davies, rhieni Huw yn amlwg wrth eu boddau ac yn talu teyrnged i ymrwymiad eu mab.
“Da ni’n falch iawn ohono ac yn gobeithio gallu ei ddilyn yn y 6 Gwlad,” medden nhw.
“Mae Huw yn haeddu pob llwyddiant a ddaw, mae wedi gwneud popeth posibl dros y blynyddoedd i gyrraedd lle mae o rŵan.
“Diolch i bawb sydd wedi ei hyfforddi a’i gefnogi ar y daith hyd yma. Welwn ni chi ym Mharc Eirias gobeithio!”
Carfan gref
Bydd gêm gynta’r ymgyrch ym Mae Colwyn nos Wener nesaf wrth i Gymru wynebu Iwerddon.
Mae’r hyfforddwr Byron Hayward yn dweud ei fod yn hyderus yn y garfan ac yn edrych ymlaen at yr her.
“Dyma’r garfan gryfaf y gallen ni fod wedi’i dewis oherwydd recriwtio,” meddai.
“Mae ein hadnabyddiaeth o’r garfan hon wedi bod yn drylwyr iawn ers mis Medi diwethaf ac rydym mewn lle hollol wahanol i’r hyn yr oeddem ni 12 mis yn ôl.
“Rwyf wedi gwylio bron pob gêm y mae’r bechgyn hyn wedi’i chwarae o fis Medi’r tymor hwn naill ai trwy ffilm neu drwy wylio’r gemau.
“Rydyn ni hefyd wedi cael gweithdai ac fe gawson ni gêm yn erbyn yr Alban cyn y Nadolig ac yna Gwlad Pwyl, felly o ran paratoadau, dwi’n meddwl ein bod ni mewn lle da.”
Llongyfarchiadau mawr i Huw ar gael ei ddewis yn y garfan o 36 a gobeithiwn ei weld yn cael amser teilwng ar y cae yn ystod yr ymgyrch.