Mae llyfryn wedi ei gyhoeddi sy’n rhoi cefndir darlith radio enwog Saunders Lewis, ‘Tynged yr Iaith’, yn 1962, a hanes y protestio a ddigwyddodd o ganlyniad.
Yr awdur ydi Ieuan Wyn, ac mae’r llyfryn yn seiliedig ar ddarlith a draddodwyd ganddo yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai y llynedd i gofio 60 mlynedd ers darlledu ‘Tynged yr Iaith’.
Mae’r llyfryn yn egluro amgylchiadau traddodi’r ddarlith ‘Tynged yr Iaith’, yn rhoi braslun o’i chynnwys, ac yn cyflwyno crynodeb o frwydr yr iaith o’r 1960au hyd at heddiw.
Cawn hanes sefydlu Cymdeithas yr Iaith a’r mudiadau iaith eraill – Adfer, Cymuned a Dyfodol i’r Iaith, a’r ymgyrchoedd dros yr iaith yn ystod y cyfnod. Edrychir ar sefyllfa argyfyngus ein hiaith heddiw a’r ymdrechion i’w gwarchod, a thrafodir yr amodau y mae’n rhaid eu creu er mwyn sicrhau ei pharhad a’r ffyniant fel iaith gymunedol.
Cyhoeddir gan Nereus, Y Bala ar ran Gwasg Utgorn Cymru.
Mae’r llyfryn ar werth yn Siop Ogwen. Pris: £4.00.