Cynllun gwisgoedd ysgol wedi arbed miloedd a helpu’r amgylchedd

Partneriaeth yn cefnogi teuluoedd Dyffryn Ogwen

gan Anna Sethi
Cynllun rhannu Gwisgoedd Ysgol

Eto eleni, mae cymuned Dyffryn Ogwen wedi dod at ei gilydd i gasglu a rhannu dillad ysgol.

Dan arweiniad staff Partneriaeth Ogwen, darparwyd biniau casglu gwisgoedd yn 6 o’r ysgolion lleol i bobl allu rhoi eu hen wisgoedd ysgol at yr achos. Ar ôl i’r ysgolion gau symudwyd y biniau casglu i 4 lleoliad cyhoeddus – Plas Ffrancon, Llyfrgell Bethesda, Swyddfa Dyffryn Gwyrdd a Chanolfan Tregarth er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl gyfrannu gwisgoedd.

Bydd y biniau yn aros am gyfnod yn y lleoliadau hyn er mwyn rhoi cyfle pellach i bobl gyfrannu eu hen wisgoedd hen at yr achos.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl wirfoddolwyr wnaeth gymryd rhan yn y cynllun, heb eu cymorth yn golchi a smwddio ni fuasai’r cynllun wedi llwyddo. Fe wnaeth 16 o wirfoddolwyr ein helpu i olchi’r dillad ar gyfer dosbarthu, a hyn dros gyfnod o sawl wythnos.

Cynhaliwyd ein sesiwn rhannu cyntaf ar Awst 8fed yng Nghanolfan Cefnfaes, fe wnaeth 58 fynychu’r sesiwn. Gan fod galw sylweddol am y dillad, cynhaliwyd yr ail sesiwn ar Awst 29ain, gyda 83 yn mynychu.

Rhwng y ddwy sesiwn a’r ymholiadau ychwanegol, rydym wedi rhannu gwisgoedd i 158 o drigolion Dyffryn Ogwen. Mae hyn yn golygu ein bod wedi arbed bron i £14,000 i drigolion y Dyffryn ac wedi cyfrannu at arbediadau carbon sylweddol. Mae’r cynllun eleni wedi atal bron i 5,000 KG* o garbon niweidiol rhag mynd i mewn i’n hamgylchedd.

Yn ystod y prosiect casglwyd 12 bin llawn dillad. Mae rhywfaint o ddillad dros ben a byddwn yn cynnal sesiwn rannu arall eto, maes o law – mae’n debyg yn ystod hanner tymor Chwefror. Cysylltwch gyda Marie neu Anna am ragor o wybodaeth – marie@ogwen.org neu anna@ogwen.org

*https://unearthed.greenpeace.org/2019/09/12/fast-facts-about-fast-fashion/