Cyngerdd 12 awr yn Neuadd Ogwen i godi arian

Gwil Gray yn chwarae piano trwy’r dydd er cof am ei fam

Carwyn
gan Carwyn
IMG_0819

Mae Gwil Gray yn chwarae piano am 12 awr heddiw i godi arian i elusen Cancer Research.

Pianothon

Bydd yn diddanu trwy’r dydd heddiw, 29 Gorffennaf, yn Neuadd Ogwen a chroeso i unrhyw un fynd draw i fwynhau a chefnogi Gwil.

Mae’n codi arian er cof am ei fam, Sara a fu farw’r llynedd.

“Be dwi’n drio’i wneud efo’r pianothon ydi codi ymwybyddiaeth am sut mae canser yn effeithio teuluoedd a phobl yn gyffredinol,”meddai Gwil.

“Ond hefyd i brofi hyd yn oed yn yr amseroedd mwyaf anodd, fe all harddwch drechu popeth.

“Roeddwn i hefyd eisiau codi arian a bydd yr holl bres yn mynd tuag ag ymchwil a chefnogi teuluoedd.”

Roedd Sara ei hun yn bianydd talentog, ac mae ymdrech Gwil yn deyrnged arbennig. Fe fynnodd fod Gwil hefyd yn dysgu chwarae, a diolch iddi am hynny i ni gael mwynhau ei ddawn heddiw.

Arwerthu llun

Fel rhan o’r ymdrech i godi arian, mae’r artist lleol Pete Jones yn arwerthu paentiad “Afon Ogwen, Coetmor”. Roedd Pete yn gyfaill i Sara ac yn cynnig y llun i gefnogi ymdrech codi arian Gwil. Gallwch gynnig draw yn Neuadd Ogwen – ond does dim llawer o amser ar ôl.

Felly, ewch draw i gefnogi a chyfrannu neu gallwch hefyd wneud cyfraniad ar-lein yma.