Cyllid i weithgareddau awyr agored ym Mharc y Moch

Coetir ger Bethesda yn cael ei drawsnewid yn ofod awyr agored a lles i bawb

Carwyn
gan Carwyn

Mae menter gymdeithasol amgylcheddol yn Nyffryn Ogwen yn derbyn £76,326 trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i drawsnewid coetir Parc y Moch ger Bethesda.

Bydd y cyllid yn cefnogi’r gwaith o drawsnewid Parc y Moch yn ganolfan gweithgareddau awyr agored a lles i bawb – yn arbennig pobl nad ydynt yn ymgysylltu hefo natur ar hyn o bryd.

Gofod i’w fwynhau

“Gyda’r grant hwn, byddwn yn gwella mynediad i’r coetiroedd a’r seilwaith cyffredinol, sy’n golygu y gallwn barhau i ddatblygu Parc y Moch fel gofod i’r gymuned ei ddefnyddio a’i fwynhau,” meddai Harri Pickering, Cwmni Buddsoddi Cymunedol Parc y Moch.

“Bydd cynnal digwyddiadau cymunedol a gweithgareddau cyfnewid sgiliau yn help mawr i ddod â phobl i’r gofod fel y gallant ddod i’w adnabod.

“Mae hwn yn gam mawr arall tuag at gael y gymuned leol i ailgysylltu â natur.”

Gwella llwybrau a mynediad

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella llwybrau troed ac ychwanegu meinciau a byrddau gwybodaeth.

Mae’r prosiect yn gobeithio cyrraedd pobl nad ydynt yn mynd allan i fyd natur ar hyn o bryd trwy alluogi mynediad i fwy o bobl i wneud y mwyaf o’r coetir.

Bydd gwelliannau i waliau ffin, gyda chynlluniau hefyd i wneud mynedfa’r safle yn fwy croesawgar drwy ychwanegu giât bren newydd a gosod rac beiciau i annog beicio.

Mae gweithgareddau cymunedol wedi bod ar y safle ers 2021. Bydd y prosiect yn adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy gynnal diwrnodau, hyfforddiant a digwyddiadau gwirfoddoli rheolaidd newydd.