Er yr hwyl a’r dathlu i lawer o deuluoedd, mae’r Nadolig yn gallu bod yn ddiwrnod anodd i rai.
Ond yma ym Methesda, mae’r gymuned yn dod ynghyd eto eleni gan gynnig cinio Nadolig cymunedol am ddim lle bydd croeso arbennig, a phryd a hanner wrth gwrs.
Gwirfoddolwyr
Dyma’r ail flwyddyn i’r pryd ’Dolig cymunedol gael ei threfnu fel y mae un o’r trefnwyr, y Cynghorydd Beca Roberts yn esbonio.
“Wrth i’r Nadolig agosau, mae’n bleser gen i gyhoeddi’r bod gwirfoddolwyr unwaith eto yn trefnu Cinio Nadolig Rhad ac Am Ddim yng Nghaffi Blas Lôn Las yn Nhregarth ar Ddydd Nadolig.
“Mae hyn yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd lle daeth 30 o bobol at ei gilydd i rannu pryd o fwyd cynnes a hwyl yr ŵyl.
“Ni fyddai’r digwyddiad yma yn bosibl heb haelioni Caffi Blas Lôn Las, gwirfoddolwyr ymroddedig, a’r rhoddion caredig gan ein cymuned leol.”
Cludiant ar gael
Fel y llynedd, mae cludiant ar gael i unrhyw un sydd ei angen a bydd yna groeso i chi draw yn Nhregarth.“Unwaith eto, rydym yn estyn gwahoddiad agored i unrhyw un sy’n chwilio am le cynnes i eistedd a mwynhau pryd o fwyd cynnes ar ddiwrnod Dolig,” meddai Beca.
“Os hoffech chi neu rywun rydych chi’n ei nabod ymuno â ni, peidiwch ag oedi cyn estyn allan. Rydym hefyd yn cynnig cymorth gyda chludiant – diolch i Ddyffryn Gwyrdd am ddefnydd eu car letric – felly mae croeso i chi ffonio neu anfon neges destun i gydlynu lifft.”
I roi gwybod os ydych angen lifft, cysylltwch â’r Caplan Bro, Sara Roberts ar sararoberts@cinw.or.uk / 07967652981 neu’r Cynghorydd Beca Roberts ar Cynghorydd.becaroberts@gwynedd.llyw.cymru / 07436927237.