A hithau’n wyliau haf y flwyddyn ysgol, mae’n amser i roi dillad ysgol o’r neilltu am sbel, ond buan iawn fydd hi’n dymor newydd.
Mae’n gallu bod yn waith costus i brynu dillad ysgol a morol fod yna ddigon o siwmperi, crysau a gwisgoedd chwaraeon ar gyfer mis Medi. Ac yn aml, mae’r plant yn tyfu’n gyflym ac yn mynd trwy’r gwisgoedd mewn dim.
Hwb Ogwen
Er mwyn ceisio cefnogi teuluoedd a gwneud y mwyaf o’r dillad ysgol ar draws Dyffryn Ogwen, mae Hwb Ogwen yn cydweithio efo ysgolion cynradd ac uwchradd lleol i sicrhau fod cymaint â phosib o’r gwisgoedd yn cael eu hail-ddefnyddio.
Ar ôl y llwyddiant a phoblogrwydd y cynllun Petha y llynedd, mae criw Hwb Ogwen wedi bod yn casglu tocyn da o wisgoedd y mae teuluoedd wedi eu gadael yn yr ysgolion, gyda’r gobaith o helpu teuluoedd i arbed arian a chwtogi ar wastraff di-angen.
Er bod y tymor ysgol wedi gorffen, mae yna finiau brown a ddarparwyd gan Gyngor Gwynedd, wedi eu gosod ym Mhlas Ffrancon, Swyddfa Dyffryn Gwyrdd ar y stryd Fawr, Llyfrgell Bethesda a Chanolfan Tregarth.
Gallwch ollwng dillad ysgol nad oes eu hangen bellach yn unrhyw un o’r lleoliadau. Mae Hwb Ogwen yn fodlon derbyn unrhyw ddillad ysgol mewn cyflwr da, yn cynnwys dillad heb fathodyn ysgol.
Golchi dillad
Mae gwirfoddolwyr yn golchi’r dillad ar gyfer eu rhannu, ac os oes unrhyw un awydd helpu’r criw, mae croeso i chi gysylltu efo anna@ogwen.org neu 01248 602131 i drefnu.
Bydd y dillad ar gael yn rhad ac am ddim o’r Hwb Cymunedol ar Stryd Fawr Bethesda o 14 Awst, a chyn hynny bydd sesiwn galw draw yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Cefnfaes i unrhyw un sydd angen gwisgoedd ysgol ar 8 Awst o hanner dydd tan 7pm.