Casgliadau gwastraff dros y Dolig

Dim angen gwneud apwyntiad yn y canolfannau ailgylchu dros y Nadolig tan 8 Ionawr

Mae Cyngor Gwynedd wedi anfon llythyr at gartrefi Dyffryn Ogwen lle fydd yna newid i drefniadau casglu gwastraff oherwydd y Nadolig.

Biniau gwyrdd

Bydd casgliadau arferol oni bai am 25 a 26 Rhagfyr. Ond mae rhai aelwydydd yn yr ardal fyddai fel arfer wedi cael casgliad gwastraff (bin gwyrdd neu sachau duon) ar Ddydd Nadolig / Gŵyl San Steffan. Felly, bydd criwiau casglu’r Cyngor yn:

  • hel gwastraff biniau gwyrdd oedd fod ar Ddydd Nadolig ar ddydd Sadwrn, 23 Rhagfyr;
  • ac yn gwagio biniau oedd fod i’w hel ar Ddydd San Steffan ar ddydd Sadwrn, 30 Rhagfyr.

Bydd casgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd a’r rheini sy’n cael casgliad bagiau melyn yn digwydd yr wythnos ganlynol. Er ei bod yn ŵyl banc, bydd casgliadau arferol i bawb fydd yn cael casgliad ar ddydd Llun, 1 Ionawr 2024.

Canolfannau ailgylchu

Fel digwyddodd y llynedd, ni fydd angen gwneud apwyntiad i wneud defnydd o Ganolfan Ailgylchu ar Stad Llandygai (a gweddill canolfannau’r Cyngor) dros gyfnod y Nadolig.

“Tra bod yna lawer y gallwn i gyd ei wneud i ail-ddefnyddio a cheisio torri lawr ar wastraff diangen wrth baratoi at y Nadolig, fe wyddwn ni fod cyfnod y dathlu yn aml yn golygu fod mwy o sbwriel ac ailgylchu na’r arfer yn hel mewn cartrefi,” meddai’r Cynghorydd lleol Dafydd Meurig, sy’n Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

“Er mwyn helpu teuluoedd dros gyfnod y Nadolig ac i wneud yn siŵr fod pawb yn gallu gwneud eu rhan dros yr amgylchedd, rydan ni’n annog pobl Gwynedd i wneud y mwyaf o ganolfannau ailgylchu’r Cyngor. Fel y llynedd, ni fydd angen trefnu apwyntiad dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i fynychu’r canolfannau.

“Rydan ni’n gwybod fod y canolfannau ailgylchu yn gallu bod yn brysur iawn yr adeg yma o’r flwyddyn, felly os ydi’r safle’n brysur pan ewch chi draw, yna ystyriwch os byddai’n fwy synhwyrol dychwelyd ar gyfnod distawach. Mae’r canolfannau ailgylchu ar agor o 9am tan 4pm, ond cofiwch wirio dyddiau agor eich canolfan leol chi cyn mynd draw.

“Mae cyngor a gwybodaeth am ailgylchu a manylion am eich canolfan leol a’ch dyddiadau casglu ar gyfer y flwyddyn hefyd ar gael ar wefan y Cyngor.”

Mae’r canolfannau ailgylchu ar agor tan hanner dydd ar 23 Rhagfyr, yn ail-agor ar ôl y Nadolig ar ddydd Mercher, 27 Rhagfyr. Bydd y canolfannau ar gau ar Ddydd Calan ac yna ar agor o 2 tan 6 Ionawr pan na fydd angen gwneud apwyntiad. Bydd y drefn apwyntiadau yn ail-gychwyn o 8 Ionawr.