Yn ddiweddar ysgrifennais ddarn i egluro ychydig am fy rôl fel Offeiriad Arloesol ym Methesda. Wel, erbyn rŵan, mae pethau wedi newid ychydig ac mae’r Eglwys yng Nghymru wedi fy mhenodi i swydd newydd, cyffrous.
Teitl swyddogol y swydd newydd yw Caplan Bro (Community Focused Chaplain) a’r weledigaeth yw i fod yn gaplan, sef offeiriad ar gyfer lleoliad neu sefydliad penodol, i’r gymuned yn ac o gwmpas Fethesda.
Cyd-weithio
Mae hyn yn golygu fy mod ar gael i gyd-weithio gyda mudiadau, grwpiau ac unigolion yr ardal, i wrando a bod yn bresennol ymhlith y gymuned mewn unrhyw ffordd sy’n fuddiol.
Dros y flwyddyn a hanner diwethaf rwyf wedi cyfarfod gymaint o bobl wahanol ac wedi dechrau dysgu am hanes a diwylliant unigryw Fethesda.
Rwy’n awyddus i fod ar gael i gefnogi’r gwaith ardderchog sy’n mynd ymlaen yma’n barod ac i ddatblygu gweithgareddau a phrosiectau ar y cyd gydag eraill. Rwyf ar gael i gyd-gerdded gydag unrhyw un sy’n mynd trwy amser anodd neu dywyll; sydd angen glust i wrando neu sydd eisiau trafod ffydd, gobaith a chariad.
Datblygiadau newydd
Yn y dyfodol, dwi’n gobeithio sefydlu grŵp galar a datblygu’r P’nawn Difyr ar brynhawniau Gwener yn Gorffwysfan. Hefyd, dwi’n edrych ymlaen at dal ymlaen gyda’r Eglwys Wyllt- yn enwedig pan fydd y tywydd yn gwella! Rwyf ar gael i ddarparu Cymun Cartref os ydy rhywun ddim yn medru dod i’r eglwys bellach neu yn ddioddef o salwch.
Mi fyddai yn cael fy nhrwyddedu i’r swydd newydd mewn gwasanaeth gydag Esgob Mary Stallard ar nos Iau 16eg o Fawrth, 7 o’r gloch yn Eglwys Glanogwen.
Mae croeso i bawb ymuno a fyswn wrth fy modd yn gweld pobl dwi’n eu hadnabod yno ar y noson
edrychaf ymlaen i wasanaethu chi gyd am flynyddoedd i ddod
Pob bendith
Parch Sara
Os hoffai unrhyw un gysylltu, dyma fy rhif ffôn: 07967652981 ac ebost: sararoberts@churchinwales.org.uk