CAFFI COLLED BETHESDA – dewch i ddysgu mwy am y grŵp lleol sy’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod a rhannu phrofiadau.
Cwestiwn: Beth yw ‘Caffi Colled’?
Ateb: Yn syml, gofod diogel yw hi ar gyfer bobl sydd yn byw gyda galar, tristwch a cholled- unai yn rhywbeth diweddar neu yn hirdymor. Mae ‘na banad, cacen neu fisgedi, a chroeso i bawb. Cyfle i gymdeithasu, cwrdd â phobl newydd, siarad gyda ffrindiau sy’n deall, helpu ein gilydd a rhannu ein doethineb gyda’n gilydd.
C: Pwy sy’n gyfrifol am gynnal y grŵp?
A: Y Caplan Cymunedol, Parch Sara Roberts, sydd wedi cychwyn y Caffi, gyda nifer o wirfoddolwyr wedi cynnig helpu. Mae prosiect Cymru Caredig (o dan ofal Mantell Gwynedd a Marie Curie) yn cynnig cefnogaeth hefyd.
C: Pam fod ‘na angen am hyn?
A: Oherwydd, mae yna angen i bawb gael y cyfle i fod gyda phobl eraill sydd wedi bod drwy rhywbeth tebyg. Yn ein cymdeithas heddiw nid oes yna lawer o gyfleodd na llefydd ble mae’n hawdd trafod bywyd ar ôl colli rhywun annwyl- yn enwedig ar ôl i’r cyfnod cyntaf dod i ben. Mae unigrwydd, tristwch ac iechyd meddwl yn effeithio bywydau bobl sy’n byw gyda galar. Mae yna hefyd llawer o bethau ymarferol yn dilyn colli rhywun.
C: Ydw i’n gorfod siarad gyda phobl?
A: Nag ydach, heblaw bo’ chi eisiau! Does ’na ddim pwysau i chi rannu eich teimladau heblaw eich bod yn hapus ac yn gyfforddus yn gwneud. Fydd ‘na gweithgareddau yn cael eu trefnu, a hefyd llyfrau lliwio, gemau bwrdd ayb er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl deimlo’n gyfforddus. Mae yna gyfle i ni drefnu gwneud gweithgareddau fel garddio, cerdded hamddenol, arlunio ayb, gan ddibynnu beth mae ein haelodau eisiau cael cyfle i drio.
C: Cwnsela ydi o?
A: Naci. Dydy’r arweinwyr a gwirfoddolwyr ddim yn cwnselwyr nac yn darparu cwnsela- nid ein pwrpas ni yw cynnig gwasanaeth arbenigol fel cwnsela. Rydym wedi cael profiad o wrando a siarad ag wedi byw gyda galar ein hunain, a medrwn roi manylion gwasanaethau i chi petai hynny ddefnyddiol
C: Ydw i angen bod yn grefyddol?
A: Dim o gwbl! Mae’r Caffi ar gyfer pawb a does ’na ddim disgwyl i chi fod yn grefyddol.
C: Oes yna grwpiau eraill tebyg?
A: Oes, yn Nefyn. Sefydlwyd ‘Caffi Colled’ cyn y Cyfnod Clo ym Mhen Llyn gan y Parch Sara Roberts, ac mae hi’n dal i gyfarfod yn rheolaidd, ac wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf.
C: Faint mae’n costio, pryd a ble mae o ?
A: Mae o am DDIM, yn neuadd cymunedol Gorffwysfan, Bethesda, bob Dydd Llun 1af y mis, 1-3o’r gloch. Yr un nesaf ar ddydd Llun, 3ydd o Orffennaf.