A5 wedi ail-agor ger Bethesda

Damwain wedi bod ar y ffordd

78DDED00-D9A1-48C0-B67F

(Llun Traffig Cymru)

Mae’r A5 ger Bethesda bellach wedi ail-agor ar ôl bod ar gau am ryw ddwyawr yn gynharach.

Ar y pryd, cyhoeddodd Asiantaeth Cefnffyrdd y gogledd fod yr A5 ar gau yn dilyn damwain.

Mewn neges ar Twitter, nodwyd:

“FFORDD AR GAU 🛑

“Mae’r #A5 wedi ei chau i’r ddau gyfeiriad rhwng Bethesda a Llandygai o achos gwrthdrawiad.

“Diweddariadau i ddilyn. Dewch o hyd i lwybr arall.”

Roedd yr hefyd yn cynghori modurwyr i ddefnyddio ffordd amgen yn dilyn gwrthdrawiad.

“Mae’r gwasanaethau brys yno felly am y tro plis osgwoch yr ardal a defnyddiwch ffordd wahanol,” meddai’r llu ar y pryd.