Mae Beca Roberts, sy’n cynrychioli Tregarth a Mynydd Llandygai ar Gyngor Gwynedd wedi cyflwyno ei henw fel darpar-ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Arfon. Daw yn dilyn penderfyniad Hywel Williams i beidio wynebu etholiad arall.
Yn gynghorydd sir ers etholiad mis Mai diwethaf, mae Beca’n eistedd ar Fwrdd Argyfwng Hinsawdd a Bioamrywiaeth yr Awdurdod, ynghyd a bod yn aelod o Fwrdd Pensiynau a phwyllgorau Democratiaeth, a Chraffu Cymunedau.
Materion amgylcheddol a chadwraeth
Yn gweithio’n rhan-amser fel swyddog ymgysylltu â’r gymuned ar gyfer Cynllun y Carneddau, y Parc Cenedlaethol, mae cymuned a gweithredu’n lleol yn bwysig iddi.
“Dwi’n credu ym mhwysigrwydd gweithredu ar lefel gymunedol a’r angen i sicrhau fod cymunedau efo mynediad i adnoddau i’w galluogi i weithredu ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw – o gael cartrefi fforddiadwy i leihau risg
llifogydd,” meddai
“Rwyf wedi gweithio am y rhan fwyaf o’m gyrfa yn y trydydd sector, gan ganolbwyntio’n benodol ar faterion amgylcheddol a chadwraeth.
“Mae pobl yn gweithio’n galed yn y diwydiannau hyn i wneud y gorau dros ein cymunedau ac i’r blaned, ond nid yw’r gefnogaeth yn dod gan y rhai sydd â’r pŵer i newid pethau – rheini yn San Steffan.
“Dyma’r realiti mewn llawer o sectorau fel gofal iechyd, addysg, trafnidiaeth, a mwy. Dyma pam dwi wedi rhoi fy enw ymlaen.
“Rwyf wedi cael llond bol o wylio’r amgylchedd yn cael ei anwybyddu ar adeg pan ddylai mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd fod ar frig yr agenda, ac rwyf wedi cael llond bol ar wylio pobl yn peidio â chael y cymorth sydd ei angen arnynt, y cyflog y maent yn ei haeddu ac i gael eu gwerthfawrogi am y gwaith caled y maent yn ei wneud.”
Cynyddu amrywiaeth
Ers ei hethol yn gynghorydd, mae wedi gweithio i sicrhau fod blaenoriaethau etholwyr lleol yn cael sylw.
“Materion megis diogelwch ar y ffyrdd, yr angen am gartrefi, a’r argyfwng ynni,” meddai Beca.
“Rwyf hefyd yn eistedd ar nifer o fyrddau a phaneli yng Nghyngor Gwynedd. Rwyf wedi cael pleser arbennig yn cefnogi’r Bwrdd Argyfwng Hinsawdd a Bioamrywiaeth i weithredu i leihau allyriadau carbon y Cyngor.
“Mae fy mhrofiad yn y maes yma wedi bod yn amhrisiadwy i gefnogi’r Cyngor yn ei uchelgais o fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Yn ogystal, cefais fewnbwn i drafodaethau yn y Panel Democratiaeth am sut i ddod â mwy o amrywiaeth yn y Cyngor.”
Ychwanegodd Beca: “Mae cynyddu amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth yn rhywbeth sy’n hynod o bwysig yn fy marn i, yn enwedig gan ein bod yn gobeithio cael mwy o bobl i ymwneud â gwleidyddiaeth yn gyffredinol.
“Mae gen i brofiad mewn llunio polisïau a lobïo o’m cyfnod yn gweithio i Ynni Cymunedol Cymru. Rwy’n gyfathrebwr hyderus ac yn ymchwilydd medrus.
“Mae fy swyddi yn y gorffennol gydag Ynni Ogwen a Phartneriaeth Ogwen, yn ogystal â’m swydd gyfredol yn golygu bod gen i gysylltiadau agos â grwpiau ar draws Arfon, yn enwedig rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc, pobl ddi-waith, a phobl ag anableddau. Bydd hyn yn fy ngalluogi i gynrychioli ystod amrywiol o bobl ac annog eu cyfraniad mewn gweithredu dan arweiniad y gymuned.”
Mae Beca Roberts yn un o dri ymgeisydd o Ddyffryn Ogwen sydd wedi cyflwyno’i henw fel darpar-ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Arfon.
Mae manylion am un ymgeisydd eisoes wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar, a bydd rhagor am yr ymgeiswyr yn cael eu cyhoeddi ar Ogwen360 yn y dyddiau nesaf.