Argraffdy a’i wreiddiau yn lleol i gael sylw yn Storiel

Arddangosfa yn tynnu sylw at waith argraffdy Seren

Carwyn
gan Carwyn
posterEnfys

Mae gwaith celf o argraffdy a sefydlwyd yn wreiddiol yn Rachub yn y 1970au i’w weld mewn arddangosfa newydd sy’n agos yn Storiel ym Mangor.

Argraffdy Enfys

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys posteri, gwaith celf a lluniau gan Stuart a Lois Neesham o’u hargraffdy a sefydlwyd yn adeilad hen fecws yn 1972 fel yr esbonia cyflwyniad i’r sioe ar wefan Storiel.

“Sefydlodd y Neeshams gwmni dylunio Enfys yn 1972, gan brynu offer sgrin-argraffu gan John Murgatoyd, y ffotograffydd o Fae Colwyn.

“Hen fecws yn Rachub, Bethesda oedd cartref Enfys i ddechrau, cyn symud i safle hen siop cigydd ar Ffordd Caernarfon, Glanadda, Bangor.

“Mae’r arddangosfa hon yn dod a rhai o bosteri a gwaith celf chwedlonol a wnaed gan Stuart a Lois Neesham o argraffdy Enfys sy’n rhoi cipolwg ar y sîn gerddorol ym Mangor yn y 1970au.”

O glawr ‘Afal Drwg Adda’ i roc seicodelig

Bydd yr arddangosfa sydd ar agor o 29 Ebrill tan 8 Gorffennaf yn cymryd cipolwg ar yr amrywiaeth o waith a grëwyd dros y cyfnod yma.

Roedd comisiynau Enfys yn cynnwys cloriau llwch i lyfrau argraffdy Gwasg Gee – yn cynnwys cyfrol ‘Afal Drwg Adda’ gan Caradog Pritchard a chloriau recordiau bandiau fel Yr Atgyfodiad a Brân.

Roedd argraffdy Enfys yn adnabyddus am bosteri llachar ac arloesol i gigs cerddoriaeth roc seicodelig a fyddai’n cael eu cynnal o gwmpas Prifysgol Bangor yn y saithdegau cynnar.

Gobeithio y bydd yr arddangosfa yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am yr is ddiwylliant roc a pop yn yr ardal ar y pryd, a’r bandiau rhyngwladol ddaeth i ddiddanu trigolion lleol a myfyrwyr yn y 1970au.

Mae’r arddangosfa yn agor fory (29 Ebrill) tan 8 Gorffennaf (11yb – 5yh Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn). Am fwy o wybodaeth am Storiel ewch i’r wefan.