Annog pwyll wrth barcio

Awdurdodau am weld pobl yn meddwl cyn ymweld â’r ardal

Llun o gyfrif Twitter y Parc

Gyda gwyliau hanner tymor ar ei ffordd, mae’r awdurdodau yn annog pobl sy’n ymweld yr ardal i wneud hynny mewn modd cyfrifol a chynaliadwy.

Daw’r alwad ar y cyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd, Cyngor Conwy, Traffig Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i ymwelwyr o bell ac agos.

Parcio anghyfrifol

“Mae parcio anghyfrifol yn gallu peryglu cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill ond yn ogystal â hyn yn effeithio ar fynediad cerbydau y gwasanaethau brys,” meddai Gethin Jones, Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru.

“Rydym wedi tystio enghreifftiau blaenorol o gerddwyr a phlant bychain yn cael eu gorfodi i gerdded ar y ffordd mewn ardaloedd megis Llyn Ogwen a Phen-y-Pass oherwydd gweithredoedd hunanol y lleiafrif – mae hyn yn hollol annerbyniol. Yn ddiweddar bu’n rhaid i ni gau yr A5 oherwydd perygl i ddefnyddwyr ffordd.

“Mi fyddwn yn parhau i gydweithio gyda’n partneriaid i leihau’r perygl i holl ddefnyddwyr ffyrdd a mi fydd unrhyw un sy’n parcio ar glirffordd neu’n achosi rhwystr o bosib yn cael eu cerbyd wedi eu symud ac yn gorfod talu’r costau. Cymerwch sylw o’r rhybudd.”

Mae rheoliadau parcio a thrafnidiaeth yn chwarae rôl hanfodol yn rheoli llif ymwelwyr i ardaloedd poblogaidd y Parc Cenedlaethol. Mae Traffig Cymru ac awdurdodau lleol wedi cyflwyno mesuriadau i hwyluso tagfeydd a diogelu holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Rydym yn annog ymwelwyr i wirio gwefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth am argaeledd parcio, opsiynau trafnidiaeth amgen a diweddariadau traffig.

Dywedodd llefarydd ar ran Traffig Cymru:

“Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl mwynhau’r hyn sydd gan y Parc Cenedlaethol i’w gynnig mewn ffordd ddiogel a chyfrifol. Dylai holl ddefnyddwyr ffordd gynllunio ymlaen llaw ac osgoi anghyfleustra drwy ystyried defnyddio opsiynau mwy cynaliadwy ar gyfer eu siwrneiau, teithio y tu allan i oriau brig ac, os maent yn cyrraedd mewn car, parcio mewn mannau parcio dynodedig.”

Mae’r holl sefydliadau am bwysleisio pwysigrwydd dilyn y Cod Cefn Gwlad, bod yn ymwybodol o reoliadau parcio a thrafnidiaeth a bod a chynllun wrth gefn. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi canllawiau ymweld newydd sydd ar gael ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Darganfod heb gar

Neges debyg sydd gan Barc Cenedlaethol Eryri hefyd, gan hyrwyddo teithio cynaliadwy.

“Trwy gyhoeddi cyfres o ganllawiau ymweld newydd ar ein gwefan rydym yn rhoi pŵer i ymwelwyr brofi Eryri mewn ffordd gynaladwy, darganfod mwy o’r ardal heb gar a gwneud y dewis gorau o pa lwybr sydd fwyaf addas iddyn nhw ar gyfer Yr Wyddfa,” nododd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

“Mae’r canllawiau yma yn adnoddau amhrisiadwy sy’n darparu mewnolwg a chyngor ymarferol fydd yn galluogi unigolion wneud penderfyniadau gwybodus, lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd a sicrhau ymweliad cofiadwy a chyfrifol i’n Parc Cenedlaethol.”

Yn ystod cyfnodau brig maent yn annog defnyddio cyfleusterau Parcio a Theithio neu feysydd parcio dynodedig os yn cyrraedd mewn car.

Mi ddylai perchnogion cerbydau ddilyn y cyfyngiadau parcio newydd yn Nyffryn Ogwen, a gall methu gwneud hyn arwain at dderbyn Rhybudd Talu Cosb neu atafaelu’r cerbyd.

Parch a charedigrwydd

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:

“Ein neges i bobl wrth feddwl ymlaen i gyfnod y gwyliau ydi i gynllunio’u hymweliad a gweithgareddau ymlaen llaw. Defnyddiwch y meysydd parcio priodol a gwneud y mwyaf o’r gwasanaethau bws sydd ar gael i grwydro’r ardal.

“Bydd y gwasanaeth bws Sherpa yn rhedeg gan gysylltu llwybrau poblogaidd o amgylch Yr Wyddfa ac mae gwasanaethau eraill fel bysiau trydan cymunedol hefyd yn cynnig gwasanaethau yn yr ardal. Mae hyn yn galluogi pobl i barcio mewn meysydd parcio priodol cyn mwynhau mynyddoedd Eryri ac atyniadau poblogaidd eraill sydd ar gael yn lleol.

“Fel Cyngor rydym yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid eraill i fonitro’r tueddiadau parcio.

“Mae staff yr holl bartneriaid yn cydweithio i gadw’r cyhoedd yn ddiogel a gofynnwn i drigolion a phobl sy’n ymweld i gofio hyn wrth ymweld ag i drin ein staff gyda pharch a charedigrwydd.

“Rydym am weld pawb yn mwynhau’r ardal yn ddiogel. Ond fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, os bydd modurwyr yn parcio yn anghyfreithlon byddwn yn cymryd camau priodol er diogelwch y cyhoedd.”

Wrth ddisgwyl nifer uchel o ymwelwyr dros y gwyliau, mae’r sefydliadau yn pwysleisio’r angen am gynllun wrth gefn. Os yw’r gyrchfan ddymunol yn rhy brysur, mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddarganfod ardaloedd amgen sy’n cynnig tirweddau a chyfleoedd hamdden sydd yr un mor syfrdanol.