Andrew Williams yn brif hyfforddwr newydd tîm rygbi Bethesda

Clwb Rygbi Bethesda yn cyhoeddi hyfforddwyr tymor nesaf

Carwyn
gan Carwyn

Mae Clwb Rygbi Bethesda wedi cyhoeddi mai Andrew Williams fydd prif hyfforddwr y tîm cyntaf ar gyfer tymor 2023/24.

Daw hyn yn dilyn ymgyrch i chwilio am hyfforddwr newydd ar gyfer tîm Dol Ddafydd.

Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd y Clwb:

“Hapus iawn i gyhoeddi bod Andrew Williams wedi ymgymryd â rôl Prif Hyfforddwr Clwb Rygbi Bethesda.

“Mae cyn-chwaraewr Gaernarfon ac RGC yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl ac yn cyd-fynd ag uchelgeisiau ein pwyllgor, chwaraewyr a chefnogwyr. Croeso cynnes Andrew.”

I gefnogi Andrew mae Darren Griffiths yn Hyfforddwr Ymosod a Llion Trefor yn Hyfforddwyr Amddiffyn. Huw Williams fydd y ffisio.

Rheolwr Tîm ydi Gareth Elis, gyda Gareth Evans a Gruff Elis-Williams yn Rheolwyr Tîm.

Pob lwc i’r hyfforddwyr a’r chwaraewyr ar gyfer y tymor i ddod.