Adnoddau gwyrdd newydd yn Llyfrgell Dyffryn Ogwen

Datblygiadau cyffrous ym Methesda

Carwyn
gan Carwyn
Agoriad-gardd-Ll-Bethesda-1

Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Gwynedd; Mark Emptage, Sied y Cyn-Filwyr; Judith Kaufmann, Swyddog Llesiant a’r Amgylchedd Dyffryn Gwyrdd; y Cynghorydd Paul Rowlinson, yr Aelod Lleol ar Gyngor Gwynedd dros ward Rachub; Huw Davies, Rheolwr Dyffryn Gwyrdd; Kerry Walters, Cymhorthydd Llyfrgell a Gwybodaeth Mewn Gofal, Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Bethesda. 

Mae adnoddau newydd ar gael yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen sy’n mynd ymhell tu hwnt i’r hyn y byddem yn ddisgwyl ei weld mewn llyfrgell draddodiadol.

Mae’r gwelliannau ym Methesda yn cynnwys creu gardd lesiant yng nghefn y llyfrgell yn ogystal â’r datblygiad Llyfrgell y Pethau.

Diolch i grant o Gronfa Cyfalaf Trawsnewid Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru, mae’r gofod tu allan wedi ei drawsnewid i fod yn atyniadol a chyfforddus i ddefnyddwyr.

Gwnaed hyn gyda chymorth Dyffryn Gwyrdd, prosiect cymunedol sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd a’r amgylchedd, a fu’n gyfrifol am y dyluniad a’r plannu; a chriw’r Sied Cyn-Filwyr – sef lle i gyn-bersonél y lluoedd arfog greu cysylltiadau, ffrindiau a magu sgiliau – o ran y gwaith tirlunio.

Bydd yr ardd lesiant yn ychwanegiad gwerthfawr i’r llyfrgell ac yn ofod sy’n tanlinellu pwysigrwydd edrych ar ôl yr amgylchedd a rhoi lle i natur, yn ogystal â darparu gofod llesol i bobl allu mwynhau, myfyrio ynddo, cael tawelwch a darllen.

Gardd fendigedig

“Mae hi mor braf gweld y datblygiadau hyn yn digwydd yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen a gobeithiwn y bydd yn cael croeso gan ein defnyddwyr,” meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Lyfrgelloedd

“Dwi’n deall fod yr ardd newydd bellach yn edrych yn fendigedig ac yn le braf i ddefnyddwyr y llyfrgell allu eistedd a mwynhau tywydd braf, yn ogystal â chynnig gofod hwylus ar gyfer gweithgareddau plant.

“Mae’r planhigion newydd wedi cymryd eu lle yn dda yn y gwelyau, ac yn rhoi gwledd i’r synhwyrau o ran lliw, oglau a theimlad.”

Llyfrgell y Pethau

Fel rhan o’r prosiect gwella, gosodwyd silffoedd pwrpasol yn y llyfrgell i gartrefu eitemau fydd yn cael eu benthyg fel rhan o’r prosiect Llyfrgell y Pethau.

Mae ‘Petha’ yn brosiect newydd yng Ngwynedd sydd yn ceisio sefydlu Llyfrgell y Pethau mewn tair cymuned ledled y sir, sef Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Bro Ffestiniog, mewn cydweithrediad rhwng Benthyg Cymru, Dolan a Chyngor Gwynedd.

“Mae’r syniad tu ôl i Petha yn syml – mae modd benthyg pethau bob dydd a thrwy fenthyg a rhannu yn hytrach na phrynu, gallwn arbed arian, arbed gofod yn y cartref, lleihau gwastraff a lleihau ein ôl-troed carbon,” eglurodd Catrin Wager, Swyddog Datblygu Gogledd a Gorllewin Cymru Benthyg.

“Mae Petha yn brosiect arloesol gan ei fod yn cyd-leoli Llyfrgell Pethau mewn llyfrgell draddodiadol, ac yn dangos sut y gall Awdurdodau Lleol weithio ar y cyd â chymunedau i weithredu dros drigolion, a dros ein planed.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Mae naws gartrefol iawn i’r llyfrgell a gwn fod pobl yn gwerthfawrogi’r croeso a’r gwasanaeth da gan holl staff. Hoffwn ddiolch hefyd i staff Partneriaeth Ogwen a’r Dyffryn Gwyrdd am eu holl gymorth a chefnogaeth tuag at y ddarpariaeth o Wasanaeth Llyfrgell ym Methesda.”

Mae mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen a holl lyfrgelloedd Gwynedd ar gael yma.