Ymateb negyddol gan ambell un i gyfraniadau Cymraeg ar raglen ‘Countryfile’

Rhoddodd y rhaglen ddewis i gyfranwyr i recordio cyfweliadau’n Gymraeg neu Saesneg

Carwyn
gan Carwyn
618244A3-4CA9-425F-9494

Cyflwynydd y rhaglen, Ellie Harrison

Mae nifer bychan o wylwyr y rhaglen ‘Countryfile’ ar BBC1 wedi beirniadu’r ffaith i rai pobl o Ddyffryn Ogwen gyfrannu ar y rhaglen yn Gymraeg.

Roedd y rhaglen a ddarlledwyd nos Sul, 11 Rhagfyr yn rhoi sylw i waith Ynni Ogwen a Phartneriaeth Ogwen.

Rhoddwyd cynnig i’r rheini oedd yn cael eu cyfweld i gyfrannu yn Gymraeg – cynnig rhesymol o ystyried mai dyna famiaith nifer sylweddol yma yn Nyffryn Ogwen!

Bu’r cyflwynydd Ellie Harrison yn siarad gyda nifer yn lleol gan gynnwys un o wardeiniaid ynni lleol, aelodau Côr y Penrhyn, gyda chyfranwyr yn cyfrannu yn Gymraeg ac eraill yn Saesneg.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed Partneriaeth Ogwen:

“Gwych croesawu @BBCCountryfile i Fethesda a chyflwyno Ellie i rai o’n prosiectau yn cynnwys y beics a cheir trydan a’r warden ynni.

“Braf gweld gymaint o gyfraniadau yn y Gymraeg ym Methesda a Phenygroes a gweld sylw haeddiannol i brosiecta da’r ardal….”

Ond nid pawb oedd yn gwirioni o weld y cyfranwyr yn cael eu cyfweld ar y rhaglen nos Sul ar BBC1.

Roedd rhai ar Twitter yn sydyn i feirniadu’r ffaith fod siaradwyr Cymraeg wedi….siarad Cymraeg. Honwyd iddynt beidio bod yn gynwysedig neu ‘inclusive’. Ymateb digon tebyg arall oedd “ffs is he speaking Welsh.”

Er roedd nifer fawr hefyd yn falch o weld y Gymraeg yn cael lle mor flaenllaw, gyda nifer o sylwadau fel:

“Nes i fwynhau cyfraniad pawb o Pesda a gwych clywed y Gymraeg naturiol.”

Tebyg oedd ymateb cyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood sydd bellach yn gweithio i Ynni Cymunedol Cymru.

Ar Twitter fe nododd yn wawdlyd fod pobl yn siarad Cymraeg! Aeth ymlaen i ddweud “Da iawn pobl Bethesda ac Ynni Ogwen.”

Clywch clywch!