gan
Carwyn
Mae trefnwyr Marchnad Ogwen wedi cyflwyno cais am bobl i ymuno fel stondinwyr newydd dros y misoedd nesaf.
Wedi dwy flynedd anodd, mae’r farchnad wedi hen ail-ddechrau ar ôl gwaetha’r pandemig ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un fyddai awydd cefnogi.
Mewn neges ar Facebook, dywedodd y trefnwyr:
“Mae Marchnad Ogwen yn chwilio am stondinwyr newydd ar gyfer mis Medi ac ymlaen.
“Ar hyn o bryd mae gennym stondin:
- Ffrwythau, llysiau a wyau
- Bwydydd poeth e.e rholiau selsig, peis ayyb
- Crefftau gwau, dafadd a bath bombs
- Cacennau a danteithion
- Caws
- Jamiau
- Mosaics
- Crefftau pren
- Clustogau a bagiau
- Addurniadau cartref
- Nwyddau llechi
- Body shop
- Coffi
“Oes gennych chi rhywbeth gwahanol?”
Beth amdani felly, os ydych awydd, cysylltwch gyda’r trefnwyr ar ebost: ysgrifennydd@marchnadogwen.co.uk