Wnaethoch chi deimlo fo?

Adroddiadau am ddaeargryn bychan yn lleol

Oeddech chi’n un o’r bobl a deimlodd y ddaear a’r adeiladau yn symud y bore yma?

Mae’n debyg fod rhai o Ddyffryn Ogwen ymhlith trigolion gogledd Gwynedd a deimlodd effaith daeargryn bychan.

Yn ôl negeseuon ar grŵp Facebook lleol, roedd trigolion wedi teimlo’r crynu yn Rachub, Braichmelyn, Tregarth a Bethesda o gwmpas 9.30am.