Ras Siôn Corn ar 27 Rhagfyr

Pa ffordd well o gael gwared ar dipyn o’r bol twrci?

Carwyn
gan Carwyn
D259C0D6-B004-4525-896A

Ar ôl dathliadau Nadolig a mwynhau efo’r teulu, beth am fynd allan ar ddydd Mawrth, 27 Rhagfyr i hel arian at Carnifal Bethesda 2023?

Mi fydd yn groeso mawr i bawb i’r Ras Siôn Corn yn y digwyddiad teuluol. Dyma fydd y cyntaf o’i fath ym Methesda, ac mae pwyllgor y carnifal yn edrych ymlaen at groesawu chi gyd!

“Mae hwn yn ddigwyddiad teuluol go iawn a cyfle gwych i gael gwared o fins pei neu ddau,” yn ôl y trefnwyr.

“Mae’r llwybr 5km yn mynd â chi ar hyd Lôn Las Ogwen i Dregarth ac yn ol. Gallwch gerdded, loncian neu redeg y 5km a bydd pob un person yn derbyn het Siôn Corn eu hunain i wisgo ar y diwrnod.”

Bydd y cofrestru yn digwydd yng Nghae Rygbi Bethesda, o 10yb ac yna bydd y ras ei hun yn cychwyn am 11yb. Casglwch eich het Siôn Corn wrth gofrestru ac yna ar y diwedd cewch gynhesu gyda brechdan bacwn!

Mae croeso i bawb ddod draw i ymuno yn yr hwyl un ai fel cefnogwr neu i rasio.

Bydd modd cofrestru ar y diwrnod neu o flaen llaw yma