Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo adroddiad fydd yn golygu buddsoddiad i ymestyn capasiti un o ysgolion cynradd y dyffryn.
Arwyddocâd ieithyddol
Mewn cyfarfod heddiw (19 Gorffennaf), penderfynwyd symud ymlaen i gyflwyno achos busnes llawn i Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni dibenion prosiect i fuddsoddi dros £1.5m cyfalaf a £300,000 o bres refeniw i gynyddu capasiti Ysgol Llanllechid (ac ysgolion Bro Lleu a Chwilog).
Roedd yr adroddiad i’r Cabinet yn nodi fod y cais ar gyfer Llanllechid a’r ysgolion eraill “er mwyn cefnogi cymunedau Cymraeg o arwyddocâd ieithyddol (h.y. cymunedau gyda dros 70% o siaradwyr Cymraeg) i ffynnu”.
Cynyddu capasiti
Daw’r cais am arian yma yn dilyn pryder am ddiffyg capasiti’r ysgolion perthnasol a hynny yn sgil “cynnydd mewn niferoedd dysgwyr yn sgil datblygiadau tai” yn yr ardal.
O ran Llanllechid, mae cwmni tai ‘Adra’ wedi datblygu stad o 18 tŷ newydd yn nalgylch yr ysgol yn ddiweddar, ac mae hynny weddi arwain at gynnydd yn nifer disgyblion. Mae ‘Adra’ hefyd wedi sicrhau hawl cynllunio am 30 o dai fforddiadwy rhent cymdeithasol ar safle arall yn nalgylch yr ysgol, ac mae’n anorfod y bydd hyn “yn arwain at ddysgwyr ychwanegol yn dod i fyw yn nalgylch yr ysgol”.
Rhagwelir y bydd niferoedd disgyblion yn parhau i fod yn uchel dros y pum mlynedd nesaf, a byddai hi’n “anodd iawn i’r ysgol ymdopi gyda’r niferoedd heb greu dosbarth ychwanegol ar eu cyfer”.
Darparu addysg Gymraeg
Wrth ymateb i’r cynnig, dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson sy’n cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd:
“Hoffwn gefnogi yn frwd y cais am arian i’w fuddsoddi yn Ysgol Llanllechid.
“Mae’r ysgol eisoes ymhell dros ei chapasiti; nid oes gofod sbâr i athrawon weithio ar waith CPA, dim ystafell gerdd benodol, dim ystafell athrawon sy’n ddigon mawr i gartrefu’r staff, diffyg llefydd addas ar gyfer cynnal grwpiau ymyrraeth a chynnal trafodaethau proffesiynol ac yn aml mae sawl gweithgaredd gwahanol yn cael ei gynnal yn y neuadd ar yr un pryd.
“Mae’r pennaeth a’r corff llywodraethu yn bryderus oherwydd y bydd y datblygiadau tai yn yr ardal yn sicr yn cynyddu’r pwysau ar yr adeilad.
“Mae safon y Gymraeg yn Ysgol Llanllechid yn rhagorol ac mae’r ysgol yn llwyddo i gyflwyno’r iaith i’r disgyblion; nodwyd yn adroddiad y pennaeth i’r corff llywodraethu ym mis Mawrth eleni fod pob un o ddisgyblion CA2 yn siarad Cymraeg yn rhugl er mai dim ond 62% sy’n ei siarad gartref.
“Byddai’r buddsoddiad hwn yn galluogi’r ysgol i ddarparu addysg Gymraeg i’r disgyblion ychwanegol ac yn cyfrannu at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”