Mewn cyfnod pan mae nifer ohonom yn poeni am filiau ynni, cynnydd prisiau bwyd ac effaith chwyddiant, mae yna newyddion da ym Methesda gyda chyfres o swyddi newydd.
Swyddi parhaol
Mewn neges ar gyfrif Neuadd Ogwen, rhannwyd manylion am y swyddi amrywiol:
“Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod gennym saith swydd newydd ar gael ac yn barod i’w llenwi o fewn Tabernacl (Bethesda) Cyf.” meddai’r neges.
“Bydd y swyddi yma i gyd yn cynnwys gweithio yn Neuadd Ogwen a’r Fic, maent i gyd yn swyddi parhaol (gyda chyfnod profi o chwe mis) ac mae ganddynt oriau gwarantedig bob wythnos…
“Credwn y dylid talu cyflog teg i bawb ac felly mae pob swydd yn unol â’r Cyflog Byw Cenedlaethol presennol o £10.90 yr awr, neu’n uwch na hynny.”
Beth ydi’r swyddi?
- Cynorthwyydd Gweinyddol – 30 awr yr wythnos
- Cynorthwyydd Marchnata a Chyfryngau Cymdeithasol – 15 awr yr wythnos
- Cynorthwyydd Glanhau a Lletygarwch – 30 awr yr wythnos
- Cynorthwyydd Bar – 30 awr yr wythnos
- Cynorthwyydd Bar – 15 awr yr wythnos
- Cynorthwyydd Bar – 7.5 awr yr wythnos
Am fwy o wybodaeth am y swyddi, ebosiwch swyddfa@neuaddogwen.com
Y dyddiad cau ar gyfer pob swydd ydi 5yp ar ddydd Gwener, 2 Rhagfyr 2022.