Rhybudd i gadw cŵn ar dennyn

Achos diweddar yn Nant Ffrancon

Carwyn
gan Carwyn

Mae Tîm Troseddau Cefn Gwlad yr Heddlu yn rhybuddio perchnogion cŵn i gadw eu hanifeiliaid ar dennyn er mwyn diogelu bywyd gwyllt.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Heddlu Gogledd Cymru yn adrodd fod achos diweddar iawn wedi aflonyddu anifeiliaid yn yr ardal.

“Dydd Sadwrn, 29/1/22, roedd ci wedi bod yn poeni defaid a wedi ymosod ar lama yn Nant Ffrancon, ger Bethesda,” meddai neges gan y Tîm Troseddau Cefn Gwlad.

“Dyma’n hatgoffa unwaith eto nad ydi lamas wedi eu diogelu o dan y gyfraith ‘poeni stoc’. Yn yr achos hwn gwyddyn pa gi sy’n gyfrifol.”

Er nad oedd anafiadau difrifol, mae’n amser o’r flwyddyn pan mae defaid yn dod ag ŵyn. Felly, mae’r heddlu yn awyddus iawn i sicrhau fod perchnogion yn ymddwyn yn gyfrifol.