Ers dechrau’r haf, mae Partneriaeth Ogwen wedi bod yn rhedeg gwasanaeth rheolaidd rhwng Bethesda a Llon Ogwen yn eu bws trydan cymunedol.
Bydd y gwasanaeth yma yn dod i ben am gyfnod ym mis Tachwedd, gan ryddhau’r bws i gael ei ddefnyddio yn gymunedol.
Mae Partneriaeth Ogwen eisiau clywed barn pobl yr ardal am sut y dylid defnyddio’r bws trydan am y misoedd nesaf.
“Rydym eisiau ymchwilio i ba ddefnydd cyson gall y gymuned wneud o’r bws,” meddai’r cais ar dudalen Facebook y Bartneriaeth.
“Gall hyn fod yn dripiau un tro i grwpiau, cludiant rheolaidd i glybiau a grwpiau, neu dripiau cyson i lefydd penodol sydd yn anodd i’w cyrraedd.
“Mae lle i 9 teithiwr ar y bws a mi fydd Partneriaeth Ogwen yn darparu gyrrwr.
“Yn ogystal mae gan Bartneriaeth Ogwen gar cymunedol sydd yn gallu cario hyd at 6 teithiwr gyda Phartneriaeth Ogwen yn darparu gyrrwr.
“Mae’r ddau gerbyd yn addas i gario teithwyr mewn cadair olwyn. Nid oes modd llogi’r bws na’r car heb yrrwr.
“Ein bwriad yw cynnig gwasanaeth sydd yn atodol i wasanaethau sydd yn cael ei ddarparu eisoes.”
Felly er mwyn gallu cynllunio’r gwasanaeth, mae Partneriaeth Ogwen eisiau clywed barn pobl yr ardal. Manylion yma i ddweud eich dweud.