Rhai ysgolion ar gau oherwydd y tywydd rhewllyd

Neges i rieni’r ardal ar ddydd Gwener, 16 Rhagfyr

Carwyn
gan Carwyn

Mae rhai o rieni Dyffryn Ogwen wedi derbyn neges fuan y bore yma na fydd ysgol i’w plant heddiw.

Oherwydd y rhew, mae Ysgol Dyffryn Ogwen ar gau heddiw (16 Rhagfyr) felly hefyd safleoedd Abercaseg a Phenybryn ym Methesda ac Ysgol Bodfeurig.

Mewn neges ar safle we Cyngor Gwynedd, dywedir:

“Bydd Ysgolion Penybryn ac Abercaseg ar gau heddiw 16/12 oherwydd cyflwr y lonydd a’r safle.”

Neges debyg hefyd gan yr ysgol uwchradd yn nodi fod y “Safle yn beryglus oherwydd rhew”.

Diwrnod i swatio, ac o bosib i fwynhau ychydig ar y tywydd a chwilio am unrhyw eira i rai o blant a theuluoedd yr ardal. Ond cofiwch gymryd pwyll a chadwch yn ddiogel.

Am y diweddaraf am ysgolion yn cau ewch i wefan Cyngor Gwynedd.