Pecyn i helpu teuluoedd ddygymod â heriau costau ynni

Dyffryn Gwyrdd yn rhannu pecyn teulu trwy ysgolion Dyffryn Ogwen

Carwyn
gan Carwyn
8BBCB8BB-4438-49F2-8EC5

Ianto a Huw gyda’r pecynnau

Gyda chostau byw a thanwydd yn cynyddu’n aruthrol, mae pecynnau teulu yn cael eu rhannu i gefnogi aelwydydd Dyffryn Ogwen.

Mae’r cynllun yn cael ei arwain gan y Dyffryn Gwyrdd mewn partneriaeth â Phrosiect SeroNet Gwynedd, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Elusen Ogwen i ddarparu Pecyn Teulu i drigolion yr ardal.

Heriau costau

Bydd y pecyn, sy’n cynnwys nwyddau a gwybodaeth am leihau costau tanwydd a gwresogi cartrefi yn rhoi cymorth ymarferol i drigolion Dyffryn Ogwen i fynd i’r afael â’r heriau costau byw.

Mae pob un o blant y Dyffryn yn derbyn pecyn i fynd adref efo nhw o’r ysgol cyn y Nadolig. Bydd pecynnau ar gael wedyn mewn digwyddiadau cymunedol yn y Dyffryn.

Dyffryn Gwyrdd

Mae gwaith y Dyffryn Gwyrdd o fewn Partneriaeth Ogwen wedi creu cyswllt gweithredol gydag unigolion a theuluoedd yn ogystal ag ysgolion yr ardal mewn sawl ffordd.

Sesiynau galw heibio am gyngor ynni, cyfarfodydd ‘panad a biliau’, cyflwyniadau i grwpiau ar arbed ynni i ‘Griw Cefnfaes’ yn y pnawniau coffi, ac ymweliadau ag ysgolion yr ardal i hyrwyddo negeseuon gwyrdd ac amgylcheddol.

Penodi wardeiniaid ynni

Dros y misoedd diwethaf mae Prosiect Sero Net wedi arwain ar y gwaith arbed ynni drwy benodi dau Warden Ynni ar gyfer Dyffryn Ogwen.

Maent wedi cysylltu’n eang ac wedi cynnal 80 o ymweliadau cartref i roi cyngor ar arbed ynni a lleihau costau.

“Ryda ni’n ddiolchgar iawn i Elusen Ogwen am eu cefnogaeth hael ar gyfer y Pecynnau Teulu fydd yn cael eu rhannu gyda disgyblion ysgolion Dyffryn Ogwen,” meddai Huw Davies, Rheolwr y Dyffryn Gwyrdd.

“Gwyddwn fod trigolion yr ardal yn teimlo effaith costau cynyddol ynni a gwresogi a’u bod hefyd eisiau cyfrannu at y gwaith o leihau’n heffaith fel cymuned ar yr amgylchedd.

“Bydd darparu bylbiau ynni isel a thaflenni gwybodaeth yn fan cychwyn da ar gyfer y gwaith hwn.”

Lleihau biliau ac arbed carbon

Ychwanegodd Ianto Shea, Warden Ynni Dyffryn Ogwen;

“Rydym yn cefnogi pobl yn Nyffryn Ogwen i leihau biliau ac arbed carbon.

“Rydym yn cynnig cyngor a chymorth am ddim i gartrefi i’w helpu i leihau eu biliau ynni drwy ddarparu:

  • Cyngor ar sut i arbed arian ac ynni i leihau’r hyn rydych yn ei dalu, yn ogystal â chyngor i’ch helpu i ddeall eich tariffau biliau, ac ati.
  • Darparu mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim fel atalyddion drafft, bylbiau LED a mwy.
  • Cyngor ar ba grantiau sydd ar gael i’ch helpu i wella’ch cartref a’i wneud mor effeithlon ag y gall fod.”

 

Am fwy o fanylion cysylltwch â huw@ogwen.org neu ffonio 07874382114.