Mae Partneriaeth Ogwen wedi penderfynu rhoi diwrnod i ffwrdd i’w staff i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi ar Fawrth y cyntaf eleni.
Mae’n rhan o ymdrech gan 13 o fentrau cymdeithasol ar draws Cymru sydd wedi dod i’r penderfyniad i osod datganiad o gefnogaeth gan y trydydd sector i’r alwad cynyddol am wneud y diwrnod yn Wyl y Banc statudol yng Nghymru.
Galw am Wyl Banc cenedlaethol
Daw’r newydd ychydig wythnosau ar ôl datganiad gan Gyngor Gwynedd yn cadarnhau eu bod yn rhoi diwrnod o wyliau i staff y Cyngor ar Fawrth y 1af.
Dywedodd Dafydd Meurig sy’n Ddirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd yn ogystal â bod yn Gadeirydd ar fenter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen ym Methesda:
“Mae’r ffaith fod cynifer o fentrau cymdeithasol ar hyd a lled Cymru wedi ymrwymo i hyn yn arwydd o’r ymrwymiad gwirioneddol i wneud Dydd Gwyl Ddewi yn Wyl y Banc cenedlaethol yng Nghymru.
“Mae’n hen bryd i Lywodraeth San Steffan roi’r hawl i Lywodraeth Cymru roi gwyl y banc i bobl Cymru.”
Ymrwymo i roi gwyliau
Mae’r mentrau cymdeithasol eraill sydd wedi ymrwymo i roi gwyliau i’w staff yn cynnwys People and Work, Siop Griffiths, Datblygiadau Egni Gwledig, Menter Môn, Antur Aelhaearn, Canolfan a Theatr Soar, Together for Change, Cwmni Bro Ffestiniog, O Ddrws i Ddrws, Iaith Cyf, Tafarn y Plu a Phartneriaeth Ogwen. Mae’r mentrau hyn yn cyflogi dros 150 o staff yn y sector adfywio cymunedol ar draws Cymru.
Mae cwmni IAITH wedi bod yn rhoi Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod o wyliau ychwanegol i staff ers eu sefydlu ym 1993.
Yn ôl Kathryn Jones, Cyfarwyddwr IAITH:
“Mater o hawl i bobl Cymru gael mynegi a dathlu eu hunaniaeth yw hyn a rydym yn falch o fod wedi cefnogi’r alwad ers ein sefydlu bron i ddeg mlynedd ar hugain yn ôl.”
Dydy rhyddhau staff ddim mor hawdd i bawb yn y trydydd sector gyda siopau cymunedol a mentrau gofal yn ei ffeindio hi’n anodd i ryddhau staff ar y 1af o Fawrth. Tra’n gwbwl gefnogol i’r egwyddor roedd nifer yn teimlo nad oeddent mewn sefyllfa i allu gweithredu hynny hyd nes fod y diwrnod yn cael ei bennu’n ddiwrnod gwyl y banc swyddogol gan Lywodraeth Cymru.
Mae rhai mentrau cymunedol hefyd, megis siop gymunedol Blas Lon Las yn Nhregarth, Gwynedd wedi penderfynu agor ar Fawrth y 1af ond neilltuo diwrnod ychwanegol o wyliau at lwfans gwyliau eu staff.
Yn y cyfamser, mae’r 13 menter gymdeithasol yma yn edrych ymlaen i roi’r cyfle i’w staff ddathlu Dydd Gwyl Ddewi gyda’u teuluoedd. Mae eu ymrwymiad yn cryfhau’r alwad gan bobl Cymru am ddiwrnod Gwyl y Banc swyddogol ar ddydd ein nawddsant.