Gyda gwaith yn bwrw ymlaen yn dda ar ddatblygiad Hen Orsaf ym Methesda, mae sesiwn wybodaeth yn cael ei chynnal yn y Clwb Rygbi.
Bydd y datblygiad yn cynnwys 17 o gartrefi rhent cymdeithasol:
- 1 tŷ 4 llofft;
- 3 tŷ 3 llofft;
- 8 tŷ 2 lofft;
- 5 byngalo 2 lofft.
Mae dwy sesiwn wybodaeth yn cael eu cynnal ar ddydd Mawrth, 1 Chwefror. Y cyntaf o 3pm tan 4.14pm a’r ail o 5.15pm tan 6.30pm. Rhaid cofrestru i fynychu, trwy ffonio 0300 1112122 neu e-bostio post@grwpcynefin.org a gofyn am Llio Griffiths neu Steffan Smith.
Bydd cyfle i glywed am y datblygiad ac i gofrestru diddordeb – gyda chynrychiolwyr o Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd yno i drafod ac ateb cwestiynau.
Os na fedrwch fynychu yn y cnawd, gallwch ymuno dros Zoom – cysylltwch ar y manylion uchod i drefnu.
Cymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n rheoli’r cynllun gwerth £2.5 miliwn. Y bwriad ydi gosod y cartrefi fel tai cymdeithasol mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, gyda’r cynllun yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.