Ar ôl gwaith caled iawn a threfnu gofalus y tu ôl i’r llenni, mae’r gwasanaeth bws gwennol newydd, ‘Bws Ogwen’ yn cychwyn yn swyddogol o ddydd Iau, 21 Gorffennaf.
Adnodd gynaliadwy
Lansiwyd y gwasanaeth yn swyddogol gan Hywel Williams AS yn mewn seremoni torri rhuban.
“Hynod falch o lawnsio Bws Ogwen ym Methesda Ddydd Gwener diwethaf,” meddai.
“Ffrwyth llafur Partneriaeth Ogwen a fydd yn adnodd gynaliadwy wych i bobl lleol ac ymwelwyr.”
Mewn neges am y lansiad, dywedodd Donna Watts, o Bartneriaeth Ogwen: “Mae’r bws yn ben llanw gwaith caled gan staff Partneriaeth Ogwen ar geisiadau grant Ewropeaidd a hoffem ddiolch i bawb wnaeth ein cefnogi gyda hyn.
“Y bwriad efo’r bws ydy ei fod o’n darparu gwasanaeth rhwng Bethesda a Llyn Ogwen yn gyson rhwng Ebrill a Hydref a’i fod ar gael wedyn i’r gymuned ei logi. Mae hwn yn adnodd cymunedol ac yn adnodd i dwristiaid.
“Mae o hefyd yn fws trydan a’n bwriad yw gwefru’r bws o’r pwyntiau gwefru yma. O fewn y misoedd nesaf hefyd, rydym yn gobeithio gael paneli solar Ynni Ogwen ar y tô fel bo’r holl fflyd yn cael eu pweru gan drydan adnewyddadwy lleol.”
Defnydd cymunedol
O ddydd Iau, 21 Gorffennaf, bydd y bws naw-sedd ar gael ( yn ystod y misoedd Ebrill i Hydref) i gludo teithwyr o Fethesda i Lyn Ogwen ac yn ôl. Bydd y bws yn gwneud tair taith olynol bob dwy-awr.
Yn ogystal â’r bws ag ati, mae’r grantiau mae’r Bartneriaeth wedi ei sicrhau hefyd wedi ariannu swyddi gyrwyr, gyda thri gyrrwr lleol wedi eu penodi.
Yna, yn y gaeaf, bydd y bws a’r gyrwyr ar gael i gefnogi grwpiau a mentrau cymunedol i gludo trigolion lleol i wahanol weithgareddau. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill gyda chlybiau chwaraeon, ysgolion lleol a mudiadau amgylcheddol i gludo gwirfoddolwyr i’r ardal mewn cerbyd trydan.
Mae holl fanylion am Bws Ogwen ar gael ar eu tudalen Facebook, neu os am ragor o fanylion am logi’r bws trydan at ddefnydd cymunedol, cysylltwch â cludiant@ogwen.org neu ffonio 01248 602131.
O le?
Mae Bws Ogwen yn wasanaeth bws trydan dyddiol yn rhedeg o Fethesda i Llyn Ogwen (oni bai am ddyddiau Mercher) o Ebrill i Hydref.
O le: Stryd Penrhyn Terrace, Yr Hen Bost (Hen Spar), Llyn Ogwen Pen y Benglog. Hefyd yn gwasanaethu aros-fannau ar yr A5.
Faint?
Oedolyn £3 tocyn deu-ffordd
Plentyn £2 tocyn deu-ffordd
Plant o dan 2 AM DDIM
Mynediad i gadair olwyn
Caniateir cŵn