Mae plant Ysgol Dyffryn Ogwen wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf yn gweithio gyda’r artist lleol, Elen Williams a’r saer Mark Empatage o Veteran’s Men’s Shed Bethesda i greu mainc arbennig i gartref Plas Ogwen.
Roedd preswylwyr y cartref hefyd yn cymryd rhan yn y gweithdai celf, gyda’r preswylwyr a’r disgyblion o Ysgol Dyffryn Ogwen yn falch o allu cyd-weithio.
“Mae’r profiad o drafod dementia efo plant wedi bod yn brofiad nai ddim anghofio,” meddai’r artist Elen Williams.
“A thrafod defnyddio pethau aml-synhwyrol i addurno’r fainc yn rhywbeth newydd i mi ond wedi bod yn llwyddiant. Wrth drafod gweadau posib efo’r plant, roedd o’n ysbrydoledig eu gweld nhw wedyn yn cysidro ffyrdd diddorol a chreadigol i wneud i’r fainc apelio at bobl hyn oedd o bosibl yn diodda o dementia.
“Mi es i a ’chydig o’r gwrthrychau yma at rai o’r trigolion ac roedd teimlo’r gwrthrychau amrywiol yn sbarduno sgrysia mawr. Lot fwy effeithiol na pan es i yno i ddarlunio efo nhw.
“Tydi rhywun ddim yn cysidro pa mor anodd a rhwystredig ydy hynny i bobl hyn sydd efo problemau golwg a dementia a chlyw hyd yn oed. Dwi mor falch o sut aeth y prosiect, dwi wedi dysgu gymaint fel artist o weithio gyda Mark a’r disgyblion a staff Plas Ogwen.
“Dwi bendant am barhau i weithio gyda Phlas Ogwen a dwi wrthi’n trio trefnu criw bach i ymweld eto i orffen peintio mannau o’r fainc yn iawn.”
Mae rhagor o hanes y cydweithio ar y fainc yma
Cafodd y fainc ei hariannu gan gynllun pontio’r cenedlaethau, Cyngor Gwynedd.