Ail-lwybro rhan o Lwybr yr Arfordir drwy Stâd Penrhyn

Bydd modd i gerddwyr fwynhau golygfeydd godidog Traeth Lafan

Carwyn
gan Carwyn
366DE3E2-D8DF-487A-B376

Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru a’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd

Mae disgwyl i ran newydd o Lwybr Arfordir Cymru agor yn y gwanwyn gan gysylltu gwarchodfa natur Aberogwen a Phorth Penrhyn.

Yn dilyn trafodaethau rhwng Cyngor Gwynedd a thirfeddiannwr lleol, bydd modd ail-alinio’r llwybr i fod yn nes at yr arfordir.

Golygfeydd godidog

Bydd y llwybr newydd yn mynd drwy Ystâd Penrhyn ac yn galluogi cerddwyr i fwynhau golygfeydd godidog Traeth Lafan a’r arfordir.

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn y flwyddyn newydd gyda’r llwybr yn agor i’r cyhoedd erbyn gwanwyn 2023. Felly am y tro, dylech barhau i ddefnyddio’r llwybrau presennol.

Carreg filltir

Dywedodd Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir yr ardal:

“Mae wedi cymryd amser hir oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys Covid yn dal trafodaethau’n ôl, serch hynny roedd yn werth yr holl ymdrech.

“Mae’n garreg filltir arall i ni yng Ngwynedd yn ein gwaith i adlinio Llwybr Arfordir Cymru yn agosach at yr arfordir, gyda’r cytundeb cyfreithiol diweddaraf yma’n mynd a ni dros y marc 20 milltir o lwybr troed newydd wedi’i greu ers 2010.

“Cyflawnwyd hyn trwy weithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr sy’n haeddu canmoliaeth am lwyddiant y prosiect. Bydd y llwybr newydd yn ased gwych i bobl leol a thwristiaid, a bydd yn cyfrannu’n positif tuag at y rhwydwaith llwybrau troed ym Mangor a’r cyffiniau.”

Croesawu’r datblygiad

Dywedodd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:

“Mae’r llwyddiant yma’n amserol gan fod Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu 10 mlynedd ers agor yn swyddogol nôl ym mis Mai 2012, ac mae nifer o ddathliadau ar draws y flwyddyn i nodi’r achlysur.

“Bydd yr adran ddiweddaraf yma i’w ail-lwybro yn cael ei chroesawu gan bawb.”

Mae caniatâd adeilad rhestredig wedi ei sicrhau i dynnu lawr rhan o wal restredig gradd 2 Stâd Penrhyn i osod giatiau cerddwyr ar bob pen i’r stâd. Bydd y llwybr wedyn yn dilyn yr arfordir drwy’r coetir a chaeau agored.