Iwan Hywel yn ben swyddog menter iaith Gwynedd

Swydd newydd i ddatblygu gwaith Hunaniaith

Mae Iwan Hywel o Dregarth wedi ei benodi i swydd newydd, Pen Swyddog Hunaniaith, er mwyn arwain y gwaith o hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd.

Bydd Iwan yn ymuno gyda Hunaniaith, menter iaith y sir, yn fuan ym mis Mai. Ar hyn o bryd, mae’r Arweinydd Tîm Mentrau Iaith Cymru.

“Edrych ymlaen”

“Mae hon yn swydd heriol ond cyffrous tu hwnt, mae gennym gyfle i sefydlu Hunaniaith fel menter iaith annibynnol fydd yn creu incwm fydd yn mynd nôl i hybu’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd,” meddai Iwan.

“Y pethau pwysicaf fydd cydweithio, efo mudiadau cymunedol eraill, a gwrando, pobl sy’n bwysig.

“Drwy wrando ar lais pobl Gwynedd a’u cynnwys ymhob cam o’r ffordd  gallwn sicrhau y bydd y fenter Iaith yn gweithio er budd yr iaith a thrigolion ein sir, dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy i ddechrau ar y gwaith.”

Buddsoddi 

Wrth groesawu Iwan Hywel ar ei benodiad, dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg: “Mae gan Gyngor Gwynedd hanes hir o hybu a gwarchod yr iaith.

“Rydan ni yn awyddus i weld Hunaniaith yn fenter iaith gref, a fydd yn y pendraw yn gweithredu yn annibynnol o’r Cyngor, gan arwain y gwaith o sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg mewn cymunedau ar hyd a lled ein sir.

“Er mwyn cefnogi’r ymdrechion yma, mae Cabinet y Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £200,000 yn ychwanegol i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yma yng Ngwynedd. Bydd hyn yn golygu cryfhau presenoldeb ymarferol staff Hunaniaith ar lawr gwlad yng nghymunedau Gwynedd.

“Rydw i’n falch iawn o groesawu Iwan i’r swydd newydd fel Pen Swyddog Hunaniaith gan arwain ar y gwaith allweddol yma.

“Wedi gweithio i Fentrau Iaith Cymru ers blynyddoedd, mae’n dod â phrofiad a brwdfrydedd dros y Gymraeg ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn dechrau ar y swydd ym mis Mai.”

Ychwanegodd Dafydd Iwan, Cadeirydd Grŵp Strategol Hunaniaith: “Mae Hunaniaith yn ffodus iawn o gael un mor brofiadol ym maes y Mentrau Iaith i arwain y cyfnod newydd hwn yn ei hanes. Edrychaf ymlaen yn fawr i weld Iwan yn gafael yn yr awenau.”