Mae Iago Davies yn ŵr ifanc prysur iawn, newydd ddychwelyd o daith rygbi yn Denver, Colorado oedd o pan wnaeth Ogwen360 ddal i fyny ag o.
Hyfforddi a dysgu
Ac er bod fawr ers iddo ddychwelyd o chwarae yn yr Unol Daleithiau, roedd o nôl iddi yn ei waith bob dydd yn ysgol Coleg Brighton ar arfordir de Lloegr.
“Roedd hi’n ddiwrnod tu mewn heddiw yn paratoi at y tymor newydd,” meddai Iago sy’n rhannu ei amser fel hyfforddwr rygbi i dimau bechgyn 14-18 oed yn yr ysgol annibynnol ac yn hyfforddi fel athro addysg gorfforol.
“Mae’n cyfateb i rywbeth fel Coleg Llandrillo yn y gogledd, gyda hogiau’n dod i astudio a hyfforddi a datblygu eu rygbi.
“Mae’r ysgol yn hwb rygbi i dîm proffesiynol yr Harlequins ac mae hynny’n cynnig rhywbeth i’r chwaraewyr anelu ato fo,” meddai’r cyn ddisgybl Ysgol Dyffryn Ogwen.
Yn amlwg, mae chwaraeon a’r awyr agored yn rhywbeth sydd yng ngwaed Iago a’r teulu, ac roedd o a’i chwaer Mari yn enwau cyfarwydd mewn cystadlaethau rhyngwladol yn ystod eu harddegau.
Pa ryfedd felly fod Iago wedi bod yn rhan o dimau RGC cyn mynd ymlaen i’r brifysgol nodedig yn Loughborough sy’n arbenigo ym maes chwaraeon.
1,600 metr
Ond mae’r ysbryd cystadleuol yr un mor fyw gan y mewnwr sydd wedi chwarae mewn sawl cystadleuaeth saith bob ochr yr haf yma.
“Mae o’n brofiad grêt, ac mi fedar rywun gael eu gwahodd i chwarae i ddau neu dri thîm saith bob ochr a dwi wedi bod yn ffodus i chwarae mewn cystadlaethau yn Amsterdam, Paris a’r Unol Daleithiau eleni,” meddai.
“Roedd y twrnamaint diwethaf yn Denver, Colorado ac roedd y cae yn uchel iawn – 1,600 metr o uwchben lefel y môr. Roedd y coesau’n teimlo hynny ar ôl sbel.
“Mi’r on ni’n cynrychioli tîm ‘invitational’ o’r D.U. o’r enw Lions 7s. Ar ôl colli cwpl o gemau yn ein grŵp, aethom ni mlaen i ennill y bowlen, sy’n cyfateb i orffen yn 9fed allan o 20.
“Fe lwyddais i sgorio 5 cais ar draws 7 gêm ac ennill chwaraewr y twrnamaint ar gyfer fy nhîm i, felly yn weddol hapus efo sut aeth hi.”
Anelu am ddyrchafiad
Ac er bod ’na bosib am gystadlaethau saith bob ochr pellach yn Dubai a Kenya ar y gorwel, yr ysgol a chwarae i dîm 15 bob ochr fydd yn cael y sylw am rŵan.
“Dwi’n chwarae i dîm Worthing, da ni ym mhedwerydd gynghrair yn Lloegr. Rydan ni’n cael ein hyfforddi gan gyn-chwaraewyr proffesiynol o dîm yr Harlequins ac mae yna griw da yma.
“Mi aethon ni’n agos i gael dyrchafiad y llynedd ac rydan ni’n gobeithio mynd amdani’r tymor yma,” meddai Iago.
Pob lwc i Iago a gobeithio ei weld yn ôl yn Nyffryn Ogwen yn fuan. Dydi o’n sicr heb anghofio ei wreiddiau ac roedd o’n awyddus i ddymuno’r gorau i dîm rygbi Dôl Ddafydd yng nghynghrair cynta’r gogledd eleni!