Bydd Bethesda yn ferw o gerddoriaeth, ffilmiau, gweithdai, sgyrsiau a chelf weledol yn fuan wrth i ŵyl Mawr y Rhai Bychain ddathlu diwylliannau Celtaidd.
Y canolbwynt eleni fydd diwylliannau Celtaidd o Gymru, Yr Alban a Llydaw, gydag artistiaid o’r gwledydd yn serennu yn ystod y penwythnos.
Bydd perfformiadau byw gan gerddorion o Gymru sef Dafydd Iwan, Yws Gwynedd a’r addawol Cerys Hafana.
Mae’r trefnwyr hefyd wedi gwahodd Breabach a Talisk o’r Alban a Dièse3 & Youenn Lange o Lydaw.
“Rydym hefyd yn dangos ffilm newydd o’r enw Düthchas o’r Alban sy’n sôn am y dyhead am eu cartref genedigol a deimlir gan y rhai sydd wedi gadael Ynys Berneray yn yr Hebrides Allanol,” meddai Dilwyn Llwyd o Neuadd Ogwen.
“Bydd hefyd sgyrsiau am hanes a diwylliant lleol gan gynnwys Merched Dyffryn Ogwen.”
Am fwy o wybodaeth am y gweithgareddau ac i dalu am tocynnau ewch draw i wefan Neuadd Ogwen.