Gŵyl Cynefin a Chymuned

Penwythnos o weithgareddau yn cael eu cynnal yn ardal Dyffryn Ogwen eto eleni

309387363_540747618050897

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae penwythnos o weithgareddau yn cael eu cynnal fel rhan o ŵyl Cynefin a Chymuned.

Yn ystod y penwythnos yma (8 a 9 Hydref) bydd cyfle i fynd am dro, clywed sgwrs, rhannu straeon a chreu celf!

Dydd Sadwrn, 8fed o Hydref

  • Bore Coffi Dod i Ddangos (10am-hanner dydd yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen). Cyfle i chi ddod i ddangos hen luniau a hen bethau, rhannu straeon neu weld os oes gan rywun arall syniad am y stori tu ôl iddynt.
  • Taith beiciau trydan (11.30am-1pm, cychwyn o Ganolfan Cefnfaes). Treialwch ein beiciau trydan am ddim, ar hyd y Lon Las Ogwen i Borth Penrhyn (Bangor), ac yn ôl. Byddan ni stopio yna am bicnic, a bydd ‘chowder’, coffi, a diodydd ar gael i’w prynu gan Fwyd Môr Menai: themenaiseafoodcompany.co.uk/cwmni, neu dowch â phryd eich hun. Mae’r daith yma yn tua 10 milltir ar y weddol fflat a ni fydd angen mynd ar ffyrdd. Ni fyddwn yn beicio ar unrhyw frys o gwbwl. Byddwch yn gyfrifol am eich beic eich hun, a diogelwch personol. Cysylltwch â Tom – beics@ogwen.org / 07394 906 036 / beicsogwen.co.uk(Ariennir Beics Ogwen gan Lywodraeth Cymru).

Dydd Sul, 9fed o Hydref

  • Taith cerdded (9am, cwrdd yn cae chwarae Rachub). Archwilio olion archeolegol ar Foel Faban a’r cyffiniau. Beth mae’r olion hyn yn ei ddweud wrthym am sut mae pobl wedi byw ar y dirwedd a’i siapio dros amser, o’r Oes Efydd, 4,500 o flynyddoedd yn ôl hyd at y gorffennol diwydiannol. Taith gerdded o gwmpas a thros y Foel yng nghwmni John Roberts, Archeolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Beca Roberts, Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau. Safleoedd gwych, golygfeydd hyfryd* (*yn dibynnu ar y tywydd!). Trefnir ar y cyd gyda Phartneriaeth Tirwedd Y Carneddau. Taith am ddim ond rhaid cadw lle drwy e-bostio chris@ogwen.org
  • 5 Degawd o Gasglu (1pm – Neuadd Ogwen). Cadi Iolen sydd yn trafod y gwrthrychau arbennig sydd yn dweud hanes yn Amgueddfa Lechi Cymru. Tocynnau £3 ar gael o wefan Neuadd Ogwen 
  • Gweithdy celf i blant (1pm – Neuadd Ogwen). Elen Williams fydd yn arwain gweithdy celf i blant yn addurno disgiau pren wedi ei ysbrydoli gan y dirwedd lleol. Trefnir ar y cyd gan Bartneriaeth Ogwen a Haf o Hwyl Hunaniaith. Am ddim!
  • Merched Dyffryn Ogwen (3pm, Neuadd Ogwen). Dau sgwrs ddifyr am ferched yr ardal. Caleb Rhys fydd yn dweud hanes Côr Merched y Penrhyn a Shan Robinson yn trafod swffragetiaid Dyffryn Ogwen. Tocynnau £3 ar gael o wefan Neuadd Ogwen 

Cofiwch hefyd am ŵyl ‘Mawr y Rhai Bychain’ sy’n digwydd yn Neuadd Ogwen ar 7-9 Hydref. Cyfres o gigs a dangosiad ffilm yn dathlu ieithoedd lleiafrifol gyda Dafydd Iwan, Yws Gwynedd, Cerys Hafana, Breabach, Talisk a mwy. Manylion yma.