Mae Aled Lewis o Riwlas wedi ennill gwobr ffotograffiaeth tirluniau’r flwyddyn yng ngwobrau mawreddog Ffotograffiaeth Prydain 2022.
Mae’n gamp ryfeddol gan ei fod yn cystadlu yn erbyn ffotograffwyr ledled ynysoedd Prydain.
Mae’n debyg fod Aled wedi dechrau tynnu lluniau pan yn ddeg oed wedi iddo dderbyn camera Kodak Electralite fel anrheg.
Yna, aeth ymlaen i gamerâu fel yr Olympus AF-10 35mm, gyda hen edrych ymlaen at brosesu’r ffilm fel yr oedd hi bryd hynny.
Yn fwy diweddar mae Aled wedi mynd ati o ddifrif i dynnu lluniau, gan ganolbwyntio ar dirluniau.
Mae tirlun rhyfeddol yr ardal yn ysbrydoliaeth iddo yn amlwg o fwrw golwg ar ei luniau rhyfeddol sydd i’w gweld ar ei wefan ac ar ei dudalennau Facebook ac Instagram.
Llongyfarchiadau mawr Aled!