Gwobr chwaraeon i Huw Davies

Y chwaraewr rygbi dawnus wedi ei gydnabod yng ngwobrau Gwynedd

Carwyn
gan Carwyn
A9BFE50A-BF06-4FDA-91B6

Mae chwaraewr rygbi’r undeb sydd ar lyfrau tîm proffesiynol Sale Sharks wedi ennill un o brif wobrau chwaraeon Gwynedd.

Fe wnaeth Huw Davies ennill gwobr bachgen iau’r flwyddyn mewn seremoni yn gynharach yn yr wythnos.

Roedd y gwobrau wedi eu trefnu gan Byw’n Iach Gwynedd, gyda gwobr Huw wedi ei roi gan elusen Cofio Robin.

Wrth ddiolch am y gydnabyddiaeth, dywedodd Huw: ” Anrhydedd derbyn y wobr yma nos Fawrth.

“Diolch i Byw’n Iach am drefnu ac i Adran Chwaraeon Ysgol Dyffryn Ogwen am yr enwebiad.

“Diolch arbennig i elusen Cofio Robin am y nawdd dros y ddwy flynedd diwethaf, hyfryd bod Gary a Menai, rhieni Robin wedi gallu bod yno i gyflwyno’r tlws,” meddai.

Llongyfarchiadau mawr i Huw a phob lwc yn y gemau nesaf. Gan obeithio y byddwn ni’n gweld y blaenwr talentog yng ngharfan dan 20 Cymru ar gyfer ymgyrch nesa’r Chwe Gwlad!