Fel rhan o gynllun newydd cenedlaethol, mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i wneud perchnogion yn ymwybodol o gefnogaeth ariannol sydd ar gael i adnewyddu eiddo gwag nôl i ddefnydd.
Mae’r grant tai gwag yn cael ei gyllido o gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, ac ar gael i nifer o leoliadau yng Ngwynedd, sy’n cynnwys Bethesda.
Mewn neges cyfryngau cymdeithasol mae’r cyngor sir yn annog perchnogion eiddo gwag i fynd ati i weld os ydyn nhw’n gymwys am grant adnewyddu.
Rhent fforddiadwy
Ar wefan y Cyngor, nodir mai amcan y cynllun ydi adnewyddu “adeiladau segur mewn lleoliadau canol tref a’u dychwelyd i lety rhent diogel, sicr a fforddiadwy ar y farchnad breswyl, er mwyn ysgafnhau’r baich a’r defnydd presennol o lety Gwely a Brecwast o fewn y sector digartref.”
Aiff ymlaen i ddweud fod yr awdurdod “yn anelu at gyflawni hyn trwy ddarparu cyngor, cefnogaeth a, lle bo’n berthnasol, cymorth grant. Yn gyfnewid am grant o dan y cynllun, bydd eiddo yn destun cytundeb enwebu lle bydd yr Awdurdod Lleol yn eu defnyddio mewn cysylltiad â dyletswyddau ailgartrefu sy’n ddyledus o dan y ddeddfwriaeth digartrefedd.”
I fod yn gymwys, byddai rhaid i’r adeilad wedi bod yn wag am o leiaf chwe mis a bydd y grant sydd ar gael yn cynnwys 70% o gostau hyd at uchafswm o £20,000.
Os oes gennych ddiddordeb gwybod mwy, mae manylion ar gael yma neu cysylltwch â Thîm Tai Gwag Gwynedd ar taigwag@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 682621.