Mae Elusen Ogwen yn annog sefydliadau lleol i ystyried os allen nhw gyflwyno cais am gefnogaeth ariannol fyddai’n gwella ansawdd bywyd yn Nyffryn Ogwen.
Mae’r elusen yn dosbarthu hyd at £2,000 i grwpiau cymwys trwy elw o gynlluniau Ynni Ogwen.
Argyfwng costau byw
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedir:
“Rydym yn awyddus iawn i gefnogi prosiectau fydd yn helpu’r gymuned i ymateb i’r argyfwng costau ynni a chostau byw.
“Ond yn falch iawn o dderbyn pob math o geisiadau fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl Dyffryn Ogwen yn unol â’n meini prawf.”
Prosiectau cyfalaf a refeniw
Mae modd i grwpiau cymunedol y Dyffryn ymgeisio am gefnogaeth o hyd at £2,000 gan Elusen Ogwen i brosiectau fydd yn creu budd i drigolion yr ardal.
Mae’r Elusen yn medru cyfrannu at brosiectau cyfalaf a refeniw sy’n:
- Lleihau tlodi tanwydd
- Datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy
- Hybu trafnidiaeth gynaliadwy a theithio actif
- Arbed ynni
- Cysylltu unigolion o bob oed â’r amgylchedd
- Lleihau gwastraff
- Annog unigolion i wirfoddoli mewn prosiectau amgylcheddol yn eu cymunedau
- Gwella ansawdd yr amgylchedd lleol
- Cynyddu cynhyrchu / prynu cynnyrch bwyd lleol
Gwneud cais?
Os ydych yn bwriadu ymgeisio mae gofyn darllen y meini prawf yn ofalus cyn llenwi ffurflen gais sydd ar gael ar wefan Elusen Ogwen yma.
Mae’r elusen yn gwahodd ceisiadau erbyn:
- 30 Medi 2022
- 31 Rhagfyr 2022
- 31 Mawrth 2023
Os am sgwrs i drafod, mae croeso i gysylltu gydag Elusen Ogwen drwy anfon e-bost at: elusenogwen@gmail.com.