Rhwng rŵan a chanol mis Medi, mae cyfle i bobl a mudiadau Dyffryn Ogwen ddweud eu dweud ar flaenoriaethau ar gyfer llwybrau a hawliau tramwy dros y blynyddoedd nesaf.
Mae Cyngor Gwynedd wedi paratoi cynllun drafft sy’n gosod cyfeiriad i gwrdd ag anghenion holl ddefnyddwyr llwybrau am y cyfnod hyd at 2028/29. Mae cyfle rŵan i bawb gynnig sylwadau ar y cynllun drwy lenwi holiadur sydd ar agor tan 12 Medi.
Dros 2,000 milltir o lwybrau
“Mae’r Cyngor yn gyfrifol am rwydwaith hawliau tramwy’r sir, sydd tua 2,360 milltir o hyd, yn ogystal â llwybrau poblogaidd fel y Lonydd Glas,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd y Cyngor.
“Mae’r rhwydwaith yma yn galluogi mynediad i gefn gwlad, i’r arfordir a mannau gwyrdd trefol ac rydym wedi gweld pa mor bwysig yw ein llwybrau i lesiant pobol yn ystod cyfnod COVID-19.
“Rydan ni’n awyddus i glywed barn y cyhoedd am y Cynllun drafft yma er mwyn cytuno ar flaenoriaethau clir ar gyfer gwella hawliau tramwy yng Ngwynedd dros y blynyddoedd nesaf.”
I ddweud eich dweud ewch i wefan Cyngor Gwynedd neu mae copïau ar gael o’r llyfrgell. Gallwch hefyd ffonio 01766 771 000 i ofyn am gopi papur o’r Cynllun a’r holiadur drwy’r post.