Mae criw gweithgar Carnifal Bethesda wedi llwyddo i gael gafael ar Siôn Corn, ac mae o wedi cadarnhau pryd y bydd o’n dŵad o amgylch cymunedau’r ardal bnawn a nos Sadwrn.
Fel y mae pawb yn gwybod, mae taith Siôn Corn wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yn Nadolig dros y blynyddoedd diwethaf, a diolch i griw Carnifal Bethesda am eu gwaith caled yn sicrhau amser yn nyddiadur llawn y dyn ei hun.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Carnifal Bethesda yn cadarnhau’r amserlen.
“Wedi gael gafael ar Siôn Corn o’r diwedd, ac mi fydd o’n mynd o amgylch Dyffryn Ogwen rhwng 4.30 a 7.30 dydd Sadwrn yma!”
“Cadwch lygaid allan amdano. Mi fydd Canolfan Cefnfaes yn agor o 7yh yn barod pan ddaw Siôn Corn yn ôl oddi ar ei daith – fydd paneidiau a mins peis ar gael.”
Mae amcan amseroedd wedi eu nodi ar dudalen Facebook y Carnifal, ond mi allent newid. Felly’r cyngor ydi i gadw golwg ar y negeseuon byw ar Facebook i weld lle fydd Siôn Corn arni ar ei daith. Ond fel bras amcan, yr amseroedd sydd wedi eu nodi ydi:
4:30pm – Plas Ogwen
4:35 – Gernant (Braichmelyn)
4:40 – Abercaseg, top Llawr y Nant a Glan Ffrydlas
4:45 – Maes y Garnedd / Adwy’r Nant via Glan Ffrydlas
4:50 – Hen Sbar Gerlan
5:00 – Ciltrefnus (Rownd Pitch)
5:10 – Ffordd Ffrydlas ac Ysgol Pen Y Bryn
5:15 – Carneddi (Heibio Siôr)
5:20 – Meithrinfa Ogwen / Tan y Gaer
5:25 – Plas Ffrancon
5:35 – Llain Y Pebyll (Heibio Bangor Road)
5:45 – Tregarth (Tanrhiw/Bro Syr Ifor)
5:50 – Sling (Godre’r Parc)
6:00 – Mynydd (Neuadd Goffa)
6:05 – Maes Ogwen Tregarth
6:20 – Rhiwlas (Troi yn Bro Rhiwen)
6:30 – Pentir (Vaynol)
6:40 – Caerhun
6:45 – Glasinfryn
6:55 – Llandegai (Castell Penrhyn)
7:00 – Tal Y Bont (Groeslon Lôn Ddŵr)
7:10 – Sgwâr Llanllechid
7:15 – Sgwâr Rachub
7:20 – Maes Bleddyn heibio Ystad Coetmor
7:25 – Erw Las
7:30 – Canolfan Cefnfaes
Am y diweddaraf, cofiwch ddilyn cyfrif Facebook Carnifal Bethesda.