Dolig yn Pesda

Manylion digwyddiadau ’Dolig

Sara Roberts
gan Sara Roberts
carolau-caws
GWAHODDIADINVITATION-c-1

Ymysg yr amryw o ddigwyddiadau dros dymor y Nadolig, hoffwn tynnu eich sylw at rhai ohonynt…gweithgareddau wedi’i trefnu rhwng eglwysi, gwirfoddolwyr ac arweinwyr cymunedol ar gyfer pobl Pesda a’r cylch.

Posada Pesda

Mae traddodiad Posada yn un hyfryd sy’n dod yn wreiddiol o wledydd yn Ne America, ble mae’r Teulu Sanctaidd yn teithio o gwmpas ac mae pobl y pentref yn cynnig llety iddyn nhw.

Mae nifer o bobl caredig a thalentog o gwmpas Dyffryn Ogwen wedi mynd ati i weu’r cymeriadau a llond praidd o ddefaid…O’r 15fed ymlaen, bydd y Geni Gweu yn teithio ar hyd stryd Fethesda o siop i siop – ond gwyliwch allan am unrhyw ddafad golledig! Dewch â hi i’r Gwasanaeth Wrth y Preseb yn Eglwys Crist, Glanogwen ar 24ain am 4 o’r gloch. Bydd gwasanaeth NosWyl Nadolig gyda Chymun Bendigaid am 7 o’r gloch, croeso cynnes eto i bawb ymuno yn y noson arbennig cyn y Geni.

Ar Ddydd Sul 18fed bydd Gwasanaeth 9 Llith a Charol, sef gwasanaeth traddodiadol o garolau, yn cael ei chynnal yn Eglwys Crist, Glanogwen am 11 o’r gloch y bore – panad a mins pei wedyn a chroeso cynnes i’r holl deulu.

Ar Ddydd Llun, 19eg bydd yna noson Nadoligaidd yn cael ei chynnal yn y Llaethdy Gwyn, sef cartref newydd Cosyn Cymru, o 4 tan 8 o’r gloch. Am 6 o’r gloch bydd carolau yn cychwyn o Gae Star ac yn teithio drwy’r stryd i orffen yn y Llaethdy. Gwin cynnes a mins peis, hamperi caws, a chawl gan Fwyd Mor Menai…a chwmni i gyd-ganu carolau! Be well?

Ar ddiwrnod Nadolig bydd Cinio am DDIM yn cael ei ddarparu yng Nghanolfan Cefnfaes am 1 o’r gloch i unrhyw un sydd eisiau cwmni, bwyd cynnes a hwyl am ychydig o oriau.

Plîs gwnewch yn siŵr bod pobl yn adnabyddus i chi sydd â nunlle i fynd, neu yn ei chael hi’n anodd adeg yma’r flwyddyn, yn gwybod bod ’na le iddyn nhw. (cysylltwch â: Cynghorydd.Becaroberts@gwynedd.llyw.cymru 07436927237 er mwyn cadarnhau ond mae croeso i droi fyny ar y diwrnod)

Beth bynnag wnewch chi i ddathlu’r amser arbennig hwn gobeithio cewch chi fendith

Parch Sara Roberts (sararoberts@churchinwales.org.uk)