Mae’r dyddiau yn agosáu at ddiwedd y tymor pan mae plant yn awchu am luchio’r wisg ysgol i gefn y cwpwrdd a rhieni yn pendroni os oes yna flwyddyn arall o ddefnydd ar ôl yn y siwper ’na.
Mae yna griw o wirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd yn ddiweddar er mwyn ceisio gwneud yn siŵr fod cymaint o wisgoedd ysgol â phosib yn cael eu hail-ddefnyddio yn Nyffryn Ogwen. Yn aml iawn, mynd yn rhy fychan mae’r dillad ac felly’r bwriad gyda’r cynllun ydi gallu ail-ddefnyddio dillad sy’n hen ddigon da i’w gwisgo eto ond sydd wedi mynd yn rhy fach i’r perchennog gwreiddiol!
Arbed pres a lleihau gwastraff
Mae ysgolion ar draws yr ardal yn gweithio efo prosiect Petha i gasglu ac ail-ddefnyddio gwisgoedd ysgol i helpu teuluoedd arbed pres a lleihau gwastraff.
Trwy gydol yr wythnos yma (11 – 15 Gorffennaf) mae ysgolion Abercaseg, Bodfeurig, Dyffryn Ogwen, Llanllechid, Penybryn, Rhiwlas a Tregarth yn derbyn gwisgoedd. Mae biniau pwrpasol – sydd wedi eu darparu gan Gyngor Gwynedd – y tu allan i ysgolion i’w gwneud yn hawdd i deuluoedd ollwng y dillad nad ydynt bellach ei angen. Mae rhai o’r ysgolion yn derbyn gwisgoedd y tu mewn hefyd.
Dyffryn Gwyrdd a’r Llyfrgell
Mi fydd swyddfa Dyffryn Gwyrdd ac yng nghyntedd y Llyfrgell ym Methesda hefyd yn derbyn dillad dros yr haf. Mae’r criw yn hapus i dderbyn unrhyw ddillad ysgol mewn cyflwr da – yn cynnwys dillad heb fathodyn ysgol.
Ar ddiwedd yr wythnos, bydd y dillad sydd wedi eu cyflwyno yn cael eu casglu, eu golchi, didoli, a’u pecynnu, fel y gall teuluoedd eu benthyg am y flwyddyn ysgol am bris fforddiadwy. Mi fydd y gwisgoedd yn cael eu cynnig ar fenthyciad hirdymor drwy brosiect Petha yn ddiweddarach yn yr haf.
Rydan ni hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n fodlon helpu hefo’r golchi a phecynnu. Cysylltwch â catrin@ogwen.org neu cadwch lygad allan ar gyfryngau cymdeithasol @pethagwynedd os ydach chi awydd cymryd rhan neu wybod mwy!