Mae’r gwaith ar ddatblygiad tai newydd ar safle’r Hen Orsaf ym Methesda yn bwrw ymlaen yn dda ac mae diddordeb mawr yn lleol yn y cartrefi fydd ar gael yn fuan.
Dyna’r neges yn dilyn sesiynau rhannu gwybodaeth lle daeth dros 50 o bobl i ddysgu mwy a chofrestru eu didordeb yn y tai fforddiadwy newydd sbon.
Llety’r Adar
Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn cydweithio gyda Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru i ddatblygu 17 o gartrefi newydd, mewn datblygiad gwerth £2.5 miliwn. Yr enw ar y stad fydd Llety’r Adar.
Mae’r tai rhent cymdeithasol, yn cynnwys 8 cartref dwy ystafell wely, 5 byngalo dwy ystafell wely, 3 chartref tair ystafell wely ac 1 cartref pedair ystafell wely. Byddant yn cael eu rhentu i ddiwallu’r angen lleol am dai o safon i ystod o bobol gyda chysylltiadau lleol.
“Edrych ymlaen at weld y cartrefi newydd…yn cael eu cwblhau”
Mae’r diddordeb diweddar yn y sesiynau yn dangos yr awydd clir am dai yn yr ardal.
Dywedodd Cynghorwyr Gwynedd, Rheinallt Puw a Paul Rowlinson sy’n cynrychioli trigolion lleol ardal Bethesda: “Rydyn ni gyd, yn lleol, yn edrych ymlaen at weld y cartrefi newydd ar safle’r hen orsaf yn cael eu cwblhau a’u gosod i denantiaid cyn gynted â phosib.
“Mae gwir angen cartrefi o’r fath yma yn Nyffryn Ogwen, a bydd yn helpu pobl i barhau i fyw a ffynnu yn yr ardal.
“Mae’n lleoliad delfrydol, yn agos at y cyfleusterau ar y stryd fawr, y feddygfa, y llwybr bws a Lôn Las Ogwen. Rhoddodd y digwyddiad diweddar gyfle i bobl ddysgu mwy am y tai a deall sut i wneud cais am un, os nad oedd pobl eisoes ar y rhestr dai.”
Ychwanegodd Steffan Smith, Arweinydd Tîm Tai Grŵp Cynefin: “Cawsom sesiynau gwybodaeth gwych yng Nghlwb Rygbi Bethesda, sydd ger safle hen orsaf reilffordd Bethesda, lleoliad datblygiad tai newydd Llety’r Adar.
“Roedd ein sesiynau yn llawn, gyda 50 o bobl yn mynychu neu’n cyfarfod yn rhithiol, i gadarnhau eu diddordeb ac i siarad â Thîm Opsiynau Tai Gwynedd i sicrhau eu bod ar y gofrestr rhestr tai.
“Ein swyddogaeth ni yn Tîm Tai Grŵp Cynefin yw clywed beth yw amgylchiadau gwahanol bobl, rhannu gwybodaeth am dai fforddiadwy sydd ar gael a’u harwain ar hyd y trywydd cywir. Rydym yn ceisio rhoi’r cyngor gorau posib i bobl, fel eu bod yn y sefyllfa gryfaf i geisio cyrraedd eu hanghenion tai personol.”
Mae’r cartrefi yn cael eu gosod fel tai cymdeithasol, ac mae’r datblygiad sy’n bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd, wedi ei ariannu’n rhannol drwy grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Yn ôl Cyfarwyddwr Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin, Mel Evans: “Mae darparu cartrefi hygyrch a fforddiadwy, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, yn greiddiol i’n gwaith ac rydym yn falch o’r cydweithio sydd yma ym Methesda.
“Mae gwir angen tai i deuluoedd a chyplau yng nghymuned Dyffryn Ogwen, felly rydym yn falch o allu cynorthwyo’r rhai sy’n gobeithio parhau i fyw yn yr ardal ond sydd wedi cael trafferth i ddod o hyd i dai addas a fforddiadwy yn y gorffennol.”
Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd: “Mae sicrhau tai o ansawdd sydd yn fforddiadwy i bobl Gwynedd yn flaenoriaeth i ni fel Cyngor Gwynedd ac rydym yn falch o allu cydweithio gyda phartneriaid ar y datblygiad yma ym Methesda.
“Bydd y cynllun yn cynnig 17 o gartrefi newydd yn Nyffryn Ogwen – gan gynnig amrywiaeth maint y tai fydd yn addas i aelwydydd gwahanol. Mae’n glir o’r diddordeb yn y sesiynau diweddar fod yna ddiddordeb clir am y cartrefi newydd a dwi’n edrych ymlaen at weld trigolion lleol yn symud i mewn yn fuan.”
Mae’r cartrefi, sy’n cael eu hadeiladu i safonau carbon isel Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod yr holl eiddo yn y cynllun yn cwrdd â dulliau modern o adeiladu a chynaliadwyedd. Cwmni adeiladu Gareth Morris o Langollen a’i dîm yw’r adeiladwyr sydd ynghlwm â’r gwaith.
Mae Grŵp Cynefin yn awyddus i sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn y tai newydd yn cael pob cyfle i gofrestru eu diddordeb. Os am wneud cais, dylech wneud hynny gyda Thîm Opsiynau Tai Gwynedd erbyn 28 Chwefror fan bellaf.
Cysylltwch gyda Thîm Opsiynau Tai Gwynedd trwy e-bostio opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru, ffonio 01286 685100, neu Grŵp Cynefin ar e-bost post@grwpcynefin.org neu ffonio 0300 1112122.