Ar ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr Dyffryn Ogwen yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn eu cynrychioli ar eu cyngor lleol.
Er mwyn pleidleisio yn etholiadau’r cyngor sir ac ar gyfer unrhyw etholiadau cynghorau cymuned yn yr ardal ym mis Mai, mae’n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio ydi hanner nos ar ddydd Iau, 14 Ebrill. Pum munud mae’n ei gymryd i wneud cais ar-lein yma.
Dywedodd Dafydd Gibbard, Swyddog Canlyniadau Cyngor Gwynedd:
“Mae’r etholiadau lleol fis Mai yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud am bwy sy’n eich cynrychioli ar faterion sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywyd bob dydd yma yng Ngwynedd.
“Ond, er mwyn gallu pleidleisio, mae angen i unrhyw un sydd heb gofrestru’n barod wneud hynny.
“Mae’r broses gofrestru’n un gyflym a hawdd, ond mae angen gwneud hynny erbyn y dyddiad cau, sef dydd Iau, 14 Ebrill. Os na fyddwch wedi cofrestru erbyn hynny, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.”
Meddai Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru:
“Os ydych wedi cael eich pen-blwydd yn 16 oed neu wedi symud cartref yn ddiweddar, mae’n arbennig o bwysig gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gywir.
“Os oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.”
Gallwch ddewis pleidleisio mewn sawl ffordd – yn bersonol, drwy’r post neu drwy benodi rhywun rydych yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 19 Ebrill, a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 26 Ebrill.
Er mwyn cofrestru i bleidleisio, ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu ffonio Gwasanaeth Etholiadau Cyngor Gwynedd ar 01766 771000 cyn dydd Iau 14 Ebrill. I wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy, cysylltwch â Chyngor ar 01766 771000, neu e-bostio: etholiad@gwynedd.llyw.cymru.