Cofio am gyfraniad Godfrey Northam

Anfon cyfymdeimlad at deulu’r cyn athro, llywodraethwr a chynghorydd gweithgar

Carwyn
gan Carwyn
D9730C17-88AD-4ED4-BC3E

Llun Llafur Arfon gyda’r diweddar Godfrey Northam ar y chwith

Mae un o gymeriadau mwyaf gweithgar Dyffryn Ogwen wedi marw yn dilyn gwaeledd.

Yn athro ac yna wedi ei ymddeoliad, yn llywodraethwr Ysgol Dyffryn Ogwen, roedd Godfrey Northam yn gymeriad amlwg yn lleol.

“Sylw llawn i bob manylyn”

Mewn teyrnged, mae Dylan Davies, Pennaeth Ysgol Dyffryn Ogwen wedi diolch am gyfraniad y diweddar Godfrey Northam.

“Mae dyled Ysgol Dyffryn Ogwen ac addysg Gymraeg i Godfrey Northam yn enfawr,” meddai.

“Fe lwyddodd nid yn unig i ddysgu’r iaith Gymraeg ei hun, gan newid iaith ei aelwyd, ond fe lwyddodd i addysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg at Safon Uwch.

“Roedd ei gyfraniad at ddysgu pwnc fel Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg yn aruthrol ac yn gynamserol, gan gynnwys cyfrannu at gynhyrchu cyfresi o werslyfrau gwreiddiol yn y Gymraeg.

“Roedd yn parhau yn aelod o’r Corff Llywodraethol hyd ei ddyddiau olaf, a mawr yw fy nyled innau a sawl pennaeth o fy mlaen am ei wasanaeth. Roedd Godfrey yn un a roddai sylw llawn i bob manylyn a thasg enfawr a wynebir gan bwy bynnag fydd yn etifeddu ei grib fân.

“Yn sicr fe all gysgu’n dawel ei feddwl o wybod ei fod wedi gwneud gwahaniaeth.”

Cynghorydd gweithgar

Roedd hefyd yn ymgyrchydd brwd dros gyfiawnder cymdeithasol a bu’n cynrychioli Rachub ar y cyngor sir ac roedd yn parhau yn aelod o’r cyngor cymuned.

Roedd Godfrey hefyd yn un o hoelion wyth y mudiad Llafur yn lleol ac mae cyd-gynghorydd ag o yn cofio amdano.

Meddai Gwen Griffith, a fu’n aelod dros Tregarth a Mynydd Llandygai tra roedd Godfrey ar Gyngor Gwynedd: “Dyn da, a weithiodd yn ddiflino i’r Blaid Lafur ac achosion da, roedd gennyf barch mawr i Godfrey.”

Mae teyrnged hefyd wedi ei roi iddo gan Lafur Arfon ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth y cyn-gadeirydd Godfrey Northam ac estynnwn ein cydymdeimlad i’r teulu,” meddai’r neges.

“Yn aelod o’r blaid ers dros 30 mlynedd, ychydig sydd wedi gweithio mor ddiflino dros eu cymuned â’n diweddar ffrind Godfrey, a wnaeth hynny heb ffanffer. Nes y diwedd, yn syml fe wnaeth.

“Bydd Godfrey yn parhau i fyw yn ein holl ddyddiau heddiw ac yfory wrth i ni barhau â’r ymgyrchoedd y bu’n gweithio arnynt a mwynhau’r llwyddiannau a gyflawnodd.”

Cyfraniad cymunedol

Roedd Godfrey wastad yn barod i roi ei sgiliau ar waith er budd y gymuned. Bu’n weithgar iawn ar banel Llais Ogwan am flynyddoedd lawer.

Bu’n parhau yn drysorydd tan i’w iechyd olygu nad oedd hynny’n bosib yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae teyrngedau hefyd wedi eu rhoi gan rai a gydweithiodd ag o yng Nghyngor ar Bopeth lle’r oedd eto yn awydd i ddefnyddio ei sgiliau gwerthfawr er budd eraill.

Bydd y gwasanaeth angladd yn Nghapel Carmel, Rachub, LL57 3EN am 10.30am ar ddydd Sadwrn, 29 Hydref. Mae’r teulu yn estyn gwahoddiad i pawb i dathlu ei fywyd.