Mae cwpl o Fethesda sy’n rhedeg busnes tynnu lluniau wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth mewn gwobrau ar gyfer y ffotograffwyr priodas.
Yn ddiweddar, llwyddodd Amy ac Omid Behi i gyrraedd y rownd derfynol yn y dosbarth tynwyr lluniau mewn gwobrau arbennig ar gyfer y sector priodasau ar draws y gogledd.
Lluniau priodas
Mae Omid ac Amy wedi bod yn tynnu lluniau priodas ers 2014, a hynny ar ôl cael blas am y broses yn eu priodas eu hunain dair blynedd ynghynt.
“Fe ddechreuon ni dynnu lluniau priodas ar ôl penderfynu cymryd ein hobi yn fwy o ddifrif,” meddai Omid.
“Mi ddechreuon ni wrth dynnu lluniau priodasau ar gyfer ein ffrindiau yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â ffotograffydd priodas arall.”
“Wrth ein boddau”
Mae bod yn rhan o ddiwrnod priodas cwpl yn brofiad arbennig yn ôl Amy. Ac maent yn ceisio sicrhau fod tirlun yr ardal yn rhan o’r lluniau priodas.
“Rydan ni wrth ein bodd yn cyfrannu at achlysur mor fawr i’r cwpl,” meddai.
“Er ein bod ni fel arfer mewn priodasau pobl nad ydan ni’n eu hadnabod mor dda â hynny, mae’r awyrgylch cadarnhaol a hapusrwydd mewn priodasau wir yn rhwbio i ffwrdd arnom ni ac mae’n deimlad braf ofnadwy.
“Rydan ni hefyd wrth ein bodd yn cyflwyno’r set olaf o luniau i’r cyplau a gweld eu hwynebau hapus!
Felly, os oes unrhyw un yn edrych a ffotograffwyr lleol i dynnu lluniau ar gyfer eich diwrnod mawr, cofiwch am Amy ac Omid. Mae mwy o wybodaeth am eu busnes ar gael yma.